Diweddariad Ar Dwnnel Y Draenog

Cynllun Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan i gynorthwyo’r creadur bach pigog

gan ELERI THOMAS
Ifan-a-GUTO-1

Ifan a Guto yn casglu’r priffyrdd ac yn helpu’r amgylchedd.

IFAN-A-GUTO-2

Ifan a Guto’n mwynhau darllen y taflenni gwybodaeth. Da Iawn Fechgyn!

draenog-5

Gareth yn creu twnel yn yr ardd gan fawr obeithio y bydd yn gweld draenog cyn bo hir!

draenog-3

Twnel y draenog mewn gardd yn ardal Maesllan, Llanbedr PS.

20230119183053_005

Y Ffram yn codi ymwybyddiaeth ac yn amgylchynnu’r bwlch mewn ffordd ddeniadol.

bocs-hedgehogs-r-us

Y bocs yn y Llyfrgell. Dim ond 24 ar ol!

Diolch yn fawr i bawb sydd wedi casglu ffrâm o Lyfrgell y Dre’, Llanbedr Pont Steffan, cyn belled.  Mae 24 ohonynt ar ôl.  Beth am gasglu un ohonynt a’i gosod mewn lle yn eich gardd?

Deallir bod twneli wedi’u codi’n ardaloedd Ffynnonbedr, Maesyllan, Heol y Gogledd a Glyn Hebog. Casglwyd 26 ohonynt eisoes felly mae’n debygol bod llawer wedi’u lleoli o gwmpas y dre’ ac mewn ardaloedd oddi amgylch.

Yn ôl Llyfrgellydd y Dref, ddydd Sadwrn ddiwethaf, sef Shirley, dywedodd bod cryn ddiddordeb wedi bod yn y cynllun a nifer o sgyrsiau wedi codi wrth i ymwlewyr â’r Llyfrgell eu casglu. Mae brwdfrydedd Shirley i helpu’r mamal sy’n wynebu difodiant ar raddfa eang, a’r amgylchedd yn amlwg ac mae hithau hefyd wedi gosod ffrâm yn ei gardd.

Yn un o’r lluniau gwelir Ifan a Guto o Lanbed yn casglu ffrâmau gyda’r bwriad o’u lleoli yn eu gardd.  Da Iawn Fechgyn!  Edrychwn ymlaen i weld y lluniau!

Gallwch i gyd anfon eich lluniau/storiau/fideos at y Cyngor Tref.  Manylion cyswllt ar wefan Cyngor Tref Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan (lampeter-tc.gov.uk) neu adael copïau clawr caled mewn amlen yn y Llyfrgell gyda’ch enw a manylion cyswllt. Cânt eu harddangos ar lwyfannau cymdeithasol y Cyngor Tref maes o law.

Dyddiad cau i’w derbyn 31.03.2023.

Eto, diolch yn fawr i bawb sydd wedi casglu ffrâm eisoes.  Gwerthfawrogir hyn yn enfawr.