Cyhoeddodd Heddlu Dyfed Powys bod dyn o Geredigion a dreisiodd menyw yr oedd newydd ei chyfarfod yn y coed y tu allan i Lanbed, ar ôl ymosodiadau tebyg ar ddwy ddynes arall yn y blynyddoedd diwethaf, wedi cael dedfryd estynedig o 27 mlynedd.
Wedi cyfnod byr o chwilio amdano yn Llanbed a Cheredigion, cafodd Saul Rowan Henvey ei arestio ar Fai 7fed 2021, am dreisio’r diwrnod cynt pan arweiniodd fenyw yr oedd newydd ei chyfarfod yn Llanbed i’r goedwig, wedi dweud wrthi ei fod yn ei charu, cyn cyflawni ei ymosodiad.
Cafodd y dyn 47 oed, o ardal Tregaron, ei gyhuddo o’r treisio hwnnw ar Fai 8fed 2021 a’i or hymyn i’r llys, lle cafodd ei gadw yn y ddalfa.
Fel rhan o ymchwiliad dwys, ailymwelodd swyddogion yr heddlu â honiad arall o dreisio yn erbyn Henvey ym mis Mai 2019.
Dywedodd y dioddefwr fod Henvey wedi mynd ati pan oedd ar ei phen ei hun yng ngardd flaen ei chartref yn Llanbed. Fe’i thwyllodd hi i ganiatáu iddo ddod i mewn i’w chartref lle’i threisiodd yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
Parhaodd Henvey i drin y dioddefwr yma am sawl mis ar ôl y treisio, nes iddi ddod o hyd i’r nerth i ddweud am yr hyn a ddigwyddodd wrth swyddogion Cymorth Trais Domestig, a roddodd wybod i’r heddlu ym mis Ionawr 2020.
Ni ddatblygodd yr achos hwnnw ar y pryd oherwydd materion tystiolaethol, fodd bynnag, roedd y dioddefwr yn yr achos hwnnw, a oedd yn gwbl amherthnasol i’r dioddefwr diweddaraf, wedi adrodd am ymddygiad Henvey a oedd yn cyfateb i’r ymosodiad diweddar.
Yna, yn dilyn y cyhoeddusrwydd ar ôl cyhuddiad Henvey am yr ymosodiad yn y coetir yn Llanbed, daeth dioddefwr digysylltiad arall ymlaen i ddweud am dreisio yn ardal Llanddewi Brefi rhwng mis Mawrth a mis Ebrill 2021.
Yn y digwyddiad hwnnw aeth Henvey at fenyw unigol tra roedd hi gartref a’i darbwyllo i ganiatáu iddo aros trwy honni ei fod yn ddigartref. Ar ddau achlysur gwahanol, deffrodd y ddynes yn y nos i ddod o hyd i Henvey yn ei threisio wrth iddi gysgu yn ei gwely ei hun.
Dywedodd yr uwch swyddog ymchwilio, DI Adam Cann: “Mae’r achos hwn wedi dangos pwysigrwydd dweud wrth yr heddlu pan fyddwch chi’n dioddef trais neu ymosodiad rhywiol.
“Oherwydd diffyg tystiolaeth briodol, i ddechrau nid oeddem yn gallu cael cyfiawnder i’r dioddefwr cyntaf. Fodd bynnag, roedd gweithredoedd a phatrwm troseddu Henvey yn golygu ein bod yn gallu profi patrwm a oedd yn argyhoeddi’r rheithgor o’i euogrwydd.”
Cafwyd Henvey yn euog o bedwar cyhuddiad o dreisio yn dilyn achos llys ar Fawrth 7fed, ac heddiw roedd e nôl yn Llys y Goron Abertawe pan ddedfrydodd y barnwr ef i gyfnod estynedig o 27 mlynedd – 21 mlynedd dan glo ynghyd â chwe blynedd ar drwydded.
Dywedwyd wrtho y byddai’n treulio dwy ran o dair o’i ddedfryd cyn gallu gwneud cais am barôl. Rhoddwyd Henvey ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes a rhoddwyd gorchymyn atal amhenodol i bob dioddefwr.
Trwy gydol yr ymchwiliad a’r achos, cefnogwyd y dioddefwyr gan swyddogion arbenigol ac mae’r tosturi a’r gefnogaeth ychwanegol a ddarparwyd gan New Pathways i arwain y dioddefwyr drwy’r broses wedi bod yn amhrisiadwy.
Dywedodd DI Adam Cann: “Croesawir y ddedfryd a roddwyd i Henvey heddiw a gobeithiwn y bydd yn rhoi rhywfaint o gysur i’w ddioddefwyr ac yn caniatáu iddynt symud ymlaen â’u bywydau.
“Fel swyddogion, rydym wedi gweld yr effaith ddinistriol a gafodd gweithredoedd erchyll, treisgar Henvey ar ei ddioddefwyr.
“Er gwaethaf hyn maen nhw wedi dangos cryfder, dewrder a phenderfyniad anhygoel i weld yr ymchwiliad drwodd a’n helpu ni i sicrhau ei fod dan glo lle na all wneud yr un peth i fenywod eraill.
“Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn rhoi sicrwydd i bobl na fydd Heddlu Dyfed-Powys yn goddef troseddau mor ofnadwy ac yn rhoi hyder i unrhyw un yr ymosodwyd arno fel hyn i ddod ymlaen.
Ychwanegodd, “Fe fyddwn ni’n gwrando arnoch chi a byddwn ni’n gweithio’n ddiflino i gael cyfiawnder.”