Y Drindod Dewi Sant yn dathlu Cynhadledd Dysgu Trwy Natur yn Llambed

Myfyrwyr ac athrawon o Geredigion a siroedd cyfagos yn ymweld â’r Campws i fynychu’r gynhadledd

gan Lowri Thomas

Trefnwyd y gynhadledd yn rhan o ddatblygiad Tir Glas ar gampws Llambed. Roedd bron i 200 yn bresennol yn y gynhadledd.

Mae Tir Glas wedi bod yn cefnogi 10 ysgol yng Ngheredigion i fabwysiadu egwyddorion Harmoni wrth iddynt ddatblygu cwricwlwm newydd i Gymru. Roedd y gynhadledd yn gyfle i’r Brifysgol ddathlu gwaith y disgyblion a fu’n cymryd rhan ym mhrosiect peilot Harmoni, gydag arweiniad gan y prif siaradwr Richard Dunne.

Mae’r gwaith a gyflawnwyd hyd yma o safon uchel iawn ac mae’n fodel o arfer da y mae’r Brifysgol yn dymuno ei rannu â gweddill ysgolion cynradd Cymru wrth iddynt gynllunio ar gyfer y Cwricwlwm Newydd i Gymru.

Meddai Hazel Thomas, Cydlynydd Tir Glas:

“Cyfieithodd y Brifysgol lyfr Richard Dunne ‘Harmony – a Teachers guide’ a gafodd ei argraffu wedyn gyda chymorth a chyllid gan gynllun Cyngor Ceredigion, Cynnal y Cardi. Mae pob ysgol yng Ngheredigion wedi derbyn copi o’r llyfr Cymraeg ac mae Tir Glas ar gampws Llambed y Drindod Dewi Sant yn bwriadu cynorthwyo rhagor o ysgolion i ddatblygu egwyddorion Cytgord yn rhan o’r cwricwlwm.”

“Roedd y gynhadledd Dysgu trwy Natur yn galonogol ac yn ysbrydoliaeth wrth i 100 o ddisgyblion, yn cynrychioli’r 10 ysgol a fu’n rhan o Brosiect Harmoni, ganu Cân Harmoni i groesawu’r cynadleddwyr a’r gwesteion arbennig, sef Ben Lake, Aelod Seneddol ac Elin Jones, Aelod o’r Senedd.”

Roedd y trefnwyr yn ddiolchgar am gefnogaeth cyfranwyr y gynhadledd; Dr Hywel Griffiths, Steffan Rees o Fenter Iaith Ceredigion, CERED, Rebecca Holden o Fferm Bwlchwernen ac Anwen Griffiths o’r FUW, am eu cyflwyniadau yn canolbwyntio ar y thema Dysgu trwy Natur.

Fe wnaeth Carwyn Graves, sy’n gweithio ar brosiect Tir Glas, gyflwyno ‘Stori Cinio’ cyn i’r cynadleddwyr fwynhau cinio wedi’i wneud o gynwysyddion lleol.

Ychwanegodd:

“Mae angen nifer o bobl i drefnu digwyddiad fel hwn a hoffwn ddiolch yn bersonol i bob un ohonynt am eu cymorth yn arwain at y digwyddiad ac yn ystod y digwyddiad.”

Meddai’r Prif Siaradwr, a sylfaenydd Prosiect Cytgord, Richard Dunne:

“Diolch i’r holl ysgolion a’r cynadleddwyr am gymryd rhan yng nghynhadledd wych Harmoni. Roedd yn ddiwrnod arbennig a siaradodd y plant â brwdfrydedd a hyder am yr hyn y gwnaethant ei ddysgu trwy natur. Uchafbwynt y diwrnod oedd eu cân hyfryd am gytgord.

“Rydym yn gobeithio adeiladu ar lwyddiant y diwrnod hwn a gweithio gyda rhagor o bartneriaid ysgol a chymunedol ledled Cymru yn y flwyddyn academaidd nesaf.”

Meddai Profost Campws Llambed a Chaerfyrddin, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Gwilym Dyfri Jones:

“Roedd yn fraint cael bod yn y digwyddiad hwn lle gwnaeth disgyblion o ddeg ysgol yng Ngheredigion rannu eu dealltwriaeth o egwyddorion cytgord o ddysgu gyda’r cynadleddwyr. Dangosodd yn glir werth yr hyfforddiant a ddarparwyd gan Richard Dunne drwy gydol y flwyddyn ysgol. Ein prif flaenoriaeth nawr yw cyflwyno’r prosiect ar draws ysgolion eraill yng Ngheredigion yn ogystal â chyflwyno’r dull hwn o ddysgu i ysgolion ledled y rhanbarth a thu hwnt.”