Y Drindod Dewi Sant yn dathlu Byd y Wenynen Gymreig

Anerchiad ar gampws Llambed i ddathlu’r Wenynen Gymreig yn ystod yr Wythnos Gynaliadwyedd

gan Lowri Thomas

Cynhelir yr anerchiad ddydd Mercher, 18 Hydref yn Ystafell y Celfyddydau 1 ar Gampws Llambed am 2.30pm, ynghylch byd y Wenynen Fêl Gymreig.  Yn ystod yr anerchiad, bydd modd i wrandawyr archwilio gwreiddiau’r Wenynen Fêl Gymreig, a’i phwysigrwydd ar gyfer dyfodol cynaliadwy i gadw gwenyn.

Selwyn Runnett, gwenynwr masnachol sydd â gwenynfeydd wedi’u lleoli yng nghefn gwlad Cymru, yw prif siaradwr y digwyddiad.  Mae ganddo wybodaeth eang am gadwraeth gwenyn mêl o ran y Wenynen Dywyll Ewropeaidd, addysg a mentora ym maes cadw gwenyn a chynhyrchu mêl.  Selwyn hefyd yw Cadeirydd Pwyllgor Ymchwil, Gwyddoniaeth a Chadwraeth y Gymdeithas Gwella Gwenyn a Bridwyr Gwenyn (BIBBA), sy’n darparu cysylltiadau rhwng yr ymchwil rhyngwladol helaeth i wenyn mêl, ac arferion rheoli ar gyfer gwenynwyr masnachol ac amatur yn y DU. Mae hefyd yn cynnal prosiectau cadwraeth ar gyfer y wenynen fêl dywyll Brydeinig frodorol.

Gan edrych ymlaen at y digwyddiad, meddai Selwyn:

“Gan ein bod i gyd bellach yn deall yn fwyfwy bwysigrwydd cynaliadwyedd yn y ffordd rydym yn byw ein bywydau, mae hefyd arnom angen dealltwriaeth lawer gwell o eco-systemau lleol.  Mae hyn yn cynnwys meddwl am ein gwenyn mêl a pheillwyr eraill.  Ar hyn o bryd mae ein gwenynen fêl Gymreig frodorol yn wynebu bygythiadau genetig ac amgylcheddol.  Nawr yw’r amser i gadw, gwerthfawrogi, a chefnogi’r wenynen fêl frodorol yn ogystal ag annog ein gwenynwyr i fabwysiadu dull cynaliadwy wrth gadw gwenyn.”

Mae’r anerchiad hwn yn arbennig o ddiddorol i gampws Llambed am fod y Brifysgol wedi sefydlu gwenynfa yn ddiweddar ar y tiroedd yn rhan o fenter Tir Glas. Mae’n brosiect gan y Drindod Dewi Sant gyda’r bwriad o hwyluso a chyflymu, yn nhref Llambed a’r cyffiniau, ddatblygu economaidd cynaliadwy a fydd o fudd i genedlaethau’r dyfodol drwy greu cymuned hyderus yn llawn o syniadau, heb niweidio’r amgylchedd.

Mae Tir Glas a’i brosiect mêl yn dyst i ymrwymiad y Drindod Dewi Sant i ddatblygu cynaliadwy a chreu cymunedau mentrus sy’n ffynnu ar syniadau tra bydd hefyd yn diogelu’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Meddai Kate Williams, Pennaeth Cynaliadwyedd ac Amgylchedd y Drindod Dewi Sant:

  • “Mae Selwyn wedi rhoi yn hael o’i amser i rannu’i arbenigedd â chymuned Llambed. Mae’n siaradwr mor ddiddorol gyda chynifer o ffeithiau difyr am y wenynen fêl fel fy mod yn methu aros am ei anerchiad.”