Y Drindod Dewi Sant i gynnal Ffair Nadolig Y Dref a’r Brifysgol ar y campws yn Llambed

Ffair Nadolig flynyddol y Dref a’r Brifysgol ar gampws Llambed dros y penwythnos

gan Lowri Thomas

Ddydd Sadwrn, Rhagfyr 2il, bydd crefftwyr, cynhyrchwyr bwyd ac artistiaid o bob cwr o orllewin Cymru yn dod i Adeilad Lloyd Thomas yn Llambed i werthu eu cynnyrch yn y Ffair

Mae’r digwyddiad wedi’i drefnu ar y cyd rhwng y Brifysgol a Chyngor Tref Llambed, ac mae’r Cynghorydd Rhys Bebb, Maer y Dref, wedi bod yn brysur yn casglu gwobrau raffl ar gyfer y digwyddiad oddi wrth busnesau’r dref. Mae’r Ffair Nadolig yn agored i’r gymuned gyfan.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at y Ffair Nadolig eleni – mae’n addo bod yn ddigwyddiad cymunedol arbennig unwaith eto,” meddai Gwilym Dyfri Jones, Profost Campws Llambed.

“Bellach mae Ffair Nadolig Llambed wedi ennill ei phlwyf yng nghalendr y Brifysgol ac mae’n gyfle ardderchog i ddod â staff a myfyrwyr yn ogystal â channoedd o ymwelwyr o’r ardal leol at ei gilydd. Mae hefyd yn gyfle gwych i fwynhau awyrgylch Nadoligaidd hyfryd ac i gefnogi cynhyrchwyr a chrefftwyr lleol. Mae bob amser yn werth cofio y gall penderfyniadau bychain wrth brynu eich nwyddau gael effaith fawr ar ein cymuned leol; mae punt sy’n cael ei gwario yn lleol yn mynd ymhellach o lawer nag un a werir mewn archfarchnad neu mewn siop gadwyn ar y stryd fawr.”

Yn ystod y digwyddiad, bydd Côr Bytholwyrdd, yn difyrru’r ymwelwyr a bydd hefyd cyfle i godi arian ar gyfer banc bwyd y dref trwy gymryd rhan yn y raffl.  Os ydych chi’n gynhyrchydd lleol sydd â diddordeb mewn archebu stondin yn y ffair, cysylltwch â hazel.thomas@uwtsd.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.