Dydd Sadwrn y 14eg o Hydref gwelwyd 800 o wartheg yn bresennol sef un o’r niferoedd uchaf yn hanes y farchnad. Gwelwyd trêd da drwy gydol y dydd a safon y gwartheg yn arbennig. Y pris uchaf am eidon oedd £2010 o eiddo James, Gilfach a’r pris uchaf am aner oedd £1850 hefyd o eiddo James, Gilfach.
Dydd Sadwrn yr 28ain o Hydref cynhaliwyd y Ffair Santessau lle roedd 400 o wartheg eto o safon da iawn. O ganlyniad i’r newid mewn tywydd a siediau’n llenwi gwelwyd trêd arafach ar y cyfan ond dal galw da am wartheg mawr a gwartheg ifanc siapus. Y pris uchaf am eidon oedd £1880 o eiddo Bowen, Pwllglas a’r pris uchaf am aner oedd £1670 o eiddo Thomas, Maesymeillion.
Bydd yr arwerthiant nesaf ar y 11eg o Dachwedd sef y Ffair Fartin.
Hoffai Evans Bros ddiolch i’r holl brynwyr a gwerthwyr yn ogystal â staff y farchnad am sicrhau diwrnodau llwyddiannus yn y farchnad.