Dros 500 o wartheg ym mart Llanybydder

Adroddiad Dydd Sadwrn 13eg o Fai

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

Roedd dros 500 o wartheg yn bresennol a’r trêd yn dda iawn yn enwedig ar y gwartheg mawr.

Roedd y prisiau uchaf fel y ganlyn..

Eidon gorau – £1,980 o eiddo Evans, Awelfryn

Aner orau – £2,010 o eiddo Higgins, Penlan

Buwch orau – £1,660 o eiddo Davies, Henbant

Buwch a llo gorau – £1,320 o eiddo Hughes, Cwmcathan

Yn wir Llanybydder yw’r lle i werthu eich gwartheg!

Bydd arwerthiant ychwanegol ar ddiwedd y mis ar gyfer stoc magu ar y 27ain. Bydd yr arwerthiant stor nesaf ar y 10fed o Fehefin.

Hoffai Evans Bros ddiolch i bawb boed yn brynwyr neu yn werthwyr am eu cefnogaeth cyson i’r farchnad yn ogystal â staff y farchnad am eu gwaith.