Dryllio lliw a llawenydd yn Llanybydder

Rhywun wedi rhwygo baneri Pwyllgor y Carnifal

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
4A41C513-E8E9-4096-8CCE

Llun gan Siona Evans

Mae pobl Llanybydder wedi eu siomi o weld bod rhywun wedi rhwygo’r byntins a osodwyd yn y pentref i godi ymwybyddiaeth o Wythnos y Carnifal.

Cyhoeddodd Siona Evans, cadeirydd pwyllgor y carnifal,

“Mae’n gymaint o drueni gweld rhywun wedi bod yn rhwygo’r fflagiau oddi ar y ffens, rhywbeth a osododd aelodau’r pwyllgor yn eu hamser eu hunain i ddod â rhywfaint o lawenydd a lliw i’r pentref gyda’r carnifal ar y gorwel
Mae’r rheswm pam fod pobl yn penderfynu dryllio eiddo pobl eraill yn fy nrysu!”

Mae’r pwyllgor yn apelio am dystion ac yn holi am unrhyw dystiolaeth camerau cylch cyfyng neu dashcam o oriau mân bore Gwener 23ain Mehefin.

Cynhelir Wythnos Carnifal Llanybydder o’r 3ydd i 8fed o Orffenaf.

Nos Lun y 3ydd cynhelir Noson Bingo yn y Clwb Rygbi am 8.00 o’r gloch.

Nos Fawrth y 4ydd yw Helfa Drysor ar droed am 6.30 o’r gloch. £2.00 yr un a mae yna wobr o £30.00 a tharian.

Nos Iau y 6ed yw noson Helfa Drysor mewn car am 6.00 o’r gloch.  £10.00 y car.  £30.00 a tharian i’r enillwyr.  Bwyd yng Ngwesty Cross Hands ar ôl gorffen.

Nos Wener y 7fed yw noson “Quizfactor” yng Ngwesty Cross Hands am 7.30 o’r gloch.  Tîm o bedwar am £10.00.  £40.00 i’r enillwyr a tharian.

Dydd Sadwrn yr 8fed yw Diwrnod y Carnifal lawr yn y cae rygbi am 1.00 o’r gloch a mabolgampau i ddilyn.  Adloniant nos lawr yn y Clwb Rygbi i ddechrau am 6.30 o’r gloch gyda Sally Doolaly i’r plant a Ryan Simpson i oedolion am 9.00 o’r gloch.

“Dewch i gefnogi’ch pentref” yw neges Bethan Williams, trysorydd pwyllgor y carnifal.

Yschwanega Bethan,

“Thema’r carnifal eleni yw “pop idols” ac mae £75.00 am y fflôt orau, £40.00 i’r ail safle a £20.00 i’r trydydd safle. Yn y categorïau unigol mae £10.00 i’r enillydd, £5.00 i’r ail a £3.00 am y trydydd safle. Bydd y pâr gorau yn cael £20.00, £10.00 am yr ail a £5.00 am y trydydd safle.  Bydd tlws am y gorau yn y carnifal.  Meddyliwch am syniadau a gwelwn ni chi ar yr 8fed o Orffennaf.”

Dyma uchafbwynt y flwyddyn yng nghalendr digwyddiadau Llanybydder.  Gyda chriw gweithgar lleol yn trefnu rhywbeth i bob oedran a diddordeb, mae’n achlysur i’w ddathlu a ni fydd rhwygo baneri yn y pentref yn dryllio’r ysbryd cymunedol sydd mor gryf yn Llanybydder.