Dydd Gwener Eisteddfod yr Urdd yn fyw ar wefan Clonc360

Wythnos llawn cystadlu yn dirwyn i ben gyda thro ysgolion uwchradd ac aelwydydd i gystadlu.

gan Ifan Meredith
Screenshot-2023-06-01-at-21.57.51URDD GOBAITH CYMRU

Cystadlaethau’r dydd:

08:00- Perfformiad Theatrig i grŵp bl. 10 a dan 19 oed- Pafiliwn Gwyrdd- Ysgol Bro Pedr.

09:20- Perfformiad Theatrig o Sgript bl. 10 a dan 19 oed- Pafiliwn Gwyrdd- Ysgol Bro Pedr.

11:00- Tîm Siarad Cyhoeddus bl. 10 a dan 19 oed- Cyngor Sir Caerfyrddin- Ysgol Bro Pedr.

11:00- Trîn Gwallt a Harddwch (Lefel2)- Cogurdd- Ysgol Bro Pedr.

11:35- Deuawd Cerdd Dant bl. 10 a dan 19 oed- Pafiliwn Coch- Aelwyd Llanbed.

12:35- Côr Gwerin bl. 13 ac iau- Pafiliwn Gwyn- Ysgol Bro Pedr.

13:30- Unawd Telyn bl. 10 a dan 19 oed- Pafiliwn Coch- Cerys Angharad, Ysgol Bro Pedr.

17:13

09:42

Holl uchafbwyntiau’r cystadlu ar dydd Gwener Eisteddfod yr Urdd 2023, Sir Gaerfyrddin!

15:58

Canlyniad yr Unawd Telyn bl. 10 a than 19 oed:

1. Cadi Davies

2. Erin fflur, Ysgol Plasmawr

3. Cerys Angharad, Ysgol Bro Pedr

15:52

Llongyfarchiadau mawr i Gôr Gwerin Ysgol Beo Pedr ar ennill y gystadleuaeth. 

15:52

Ysgol Bro Pedr yn ennill y Côr Gwerin bl. 13 ac iau!!

15:41

Côr Gwerin Bro Pedr ar y llwyfan. 

15:15

Canlyniad y Ddeuawd Cerdd Dant bl. 10 a than 19 oed:

1. Ysgol Brynhyfryd

2. Ysgol Maes

3. Betrys ac Alwena Aelwyd Llanbed 

14:36

Cerys Angharad o Ysgol Bro Pedr yn cystadlu yng nghystadleuaeth yr Unawd Telyn bl. 10 a than 19 oed. 

14:35

Owain Williams yw Prif Lenor ac enillydd Coron Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin.

“fraint arbennig”

Daw Owain o Fetws yn Rhos, ger Abergele. Yn 23 oed, mae yn gyn-ddisgybl yn ysgol y Creuddyn. Wedi graddio ym Meddygaeth mae Owain bellach yn edrych ymlaen at ddechrau swydd yn Ysbyty Tywysoges Cymru yn Mhenybont. 

Roedd gofyn i’r ymgeiswyr ysgrifennu gyfansoddi darn neu ddarnau o ryddiaith dros 2,500 o eiriau ar y thema ‘Hadau’. 
Beirniad y gystadleuaeth hon oedd Fflur Dafydd a Llŷr Gwyn Lewis.

Medd Fflur Dafydd a oedd yn traddodi’r feirniadaeth:

“Mae yma storïwr wrth reddf sy’n gallu dewinio naws ac awyrgylch yn gynnil ac yn effeithiol, ac mae’r awdur hwn hefyd yn ymwybodol o siâp a strwythur stori fer effeithiol.

13:09

Canlyniad Perfformiad Theatrig o Sgript bl. 10 a than 19 oed.
1. Ysgol Bro Preseli

2. Ysgol Bro Pedr

3. Ysgol Bro Eden