Dydd Llun yn fyw o Eisteddfod RTJ Llanbed

Diwrnod arall o gystadlu ar lwyfan Eisteddfod Llanbed. 

gan Ifan Meredith

Uchafbwyntiau diwrnod olaf Eisteddfod 2023.

16:34

Gallwch chi weld y ddau ‘double-take’ sydd ar y llwyfan yn y Seremoni?

16:29

Recordiad o areithiau’r Llywyddion sef Hywel a Heulyn Roderick, Awelon gynt.

16:28

Y llwyfan wedi ei osod ar gyfer Seremoni Cadeirio’r Bardd. 

15:59

IMG_6054

Hywel a Heulyn yn rhannu eu profiadau a’u hatgofion.

15:51

Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Rhys Bebb Jones yn cyflwyno Llywyddion y dydd, Hywel ac Heulyn Roderick. 

15:49

Rhys Bebb Jones yn cyflwyno’r llywyddion. 

15:48

Canlyniad Unawd Cerdd Dant dan 12

1. Ela Gwen, Blaenpennal

2. Gruffudd Davies, Llandyfriog

3. Nanw Melangell Griffiths-Jones, Cwrtnewydd

15:44

Cystadleuydd olaf yn yr Unawd 12-16 ym cystadlu nawr. 

Araith Llywyddion y dydd fydd wedyn sef Hywel a Heulyn Roderick. 

15:30

Enillydd Rose Bowl – Ela Gwen, Blaenpennal

14:58

Cystadleuaeth yr Unawd Merched 12-16 oed.