Dydd Llun yn fyw o Eisteddfod RTJ Llanbed

Diwrnod arall o gystadlu ar lwyfan Eisteddfod Llanbed. 

gan Ifan Meredith

Uchafbwyntiau diwrnod olaf Eisteddfod 2023.

19:19

Daeth tri i’r llwyfan yng nhystadleuaeth Llefaru Darn o’r Ysgrythur Agored. 

19:19

Unawd Merched 12-16

1. Ela Mablen Griffiths-Jones, Cwrtnewydd

2. Alwena Mair Owen, Llanllwni

3. Fflur McConnell, Aberaeron a Gwennan Lloyd Owen, Llanllwni. 

19:05

Dau ddeuawd yn cystadlu yng nghystadleuaeth y Ddeuawd Emyn Agored.

17:19

Disgyblion Ysgol Carreg Hirfaen yn cyflwyno’r ddawns flodau.

17:02

Cloi’r Seremoni wrth gyd-ganu’r anthem genedlaethol. 

17:01

Dorian Jones yn cyhoeddi mai tro disgyblion Ysgol Dyffryn Cledlyn fydd yn cyflwyno’r ddawns flodau flwyddyn nesaf. 

16:59

Cyflwynir y ddawns flodau gan Ysgol Carreg Hirfaen eleni. 

16:54

Lowri Elen yn canu cân y Cadeirio a Siw Jones yn cyfarch y bardd buddugol. 

16:50

“newydddeb yn y traddodau cynganeddol”

Siffiffws, sef Jo Heyde o Swyd Hertford ac yn enedigol o Lundain yw enillydd y gadair yn Eisteddfod RTJ Llanbed eleni.

“gwrthdaro yn symbol o beth sy’n digwydd yn y byd”

Dysgodd Cymraeg ym mis Hydref 2018 ar ôl cwympo mewn cariad â’r wlad a’r iaith tra ei bod ar wyliau yn Sir Benfro. Dysgodd yr iaith wrth ddarllen a wrando ar gynnwys Cymraeg ac hefyd wrth siarad â’r ci yn ôl bob sôn. 

‘”cyfosod byd morgrug a dyn yn cyfleu diffyg ystyr bywydd y dyn”

16:38

Y beirniad, Emyr Davies yn traddodi’r feirniadaeth am y pedair cerdd a ddaeth i law. 
Gofynion y gystadleuaeth oedd oedd ysgrifennu cerdd gaeth neu ddilyniant o gerddi gaeth hyd at 80 llinell ar y testun ‘Mynydd’.