Mae Côr Lleisiau’r Werin, Côr Merched Llanybydder, yn edrych am aelodau newydd.
Mae’r côr, dan arweiniad Elonwy Davies, yn canu caneuon gwerin, gan gynnwys caneuon adnabyddus fel “Titw Tomos” a rhai caneuon lleol llai adnabyddus am lefydd yng Ngheredigion megis “Cwm Alltcafan”, “Cwm Tydi”, a’r chwedlonol “Cantre Gwaelod”, ynghyd ag emynau a charolau.
Mae’r criw o tua 20 o ferched yn perfformio’n gyson yn y pentref a thu hwnt a chodi arian at achosion lleol ac yn cystadlu mewn eisteddfodau. Rydym hefyd yn cael llawer o hwyl, yn meithrin cyfeillgarwch ac yn cefnogi ein gilydd.
Rydym yn ymarfer bob nos Iau, 7.30yn yn Festri Aberduar, Llanybydder.
Os ydych yn mwynhau canu a chymdeithasu, dewch draw i ymuno â ni! Bydd croeso arbennig i ddysgwyr Cymraeg. Am fwy o fanylion, ffoniwch Elonwy ar 01570 480129.