Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbed…Apêl i enillwyr 2022

A ydych chi wedi dychwelyd eich cwpan, tarian neu dlws sialens?

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
IMG_5881

Dyma apêl garedig at enillwyr 2022 i ddychwelyd y cwpanau, y tariannau a’r tlysau sialens os gwelwch yn dda. Gofynnir i chi eu dychwelyd i’r Is Gadeirydd a’r Prif Stiward Llwyfan, Emlyn Davies, Delfryn, 43 Bro Einion, Llanybydder, Sir Gaerfyrddin SA40 9RT erbyn dydd Llun, 21ain Awst. Pe byddech am wneud trefniadau eraill i’w dychwelyd mewn da bryd gogyfer Eisteddfod 2023, gellir ei ffonio ar 01570 480318.

Mae rhai o’r tlysau eisoes wedi eu dychwelyd a’r tîm o wirfoddolwyr yn eu cael yn barod ar gyfer yr Eisteddfod.  Y mae’r Eisteddfod yn ffodus iawn o’r gwirfoddolwyr gweithgar sy’n ei threfnu a’i chynnal yn flynyddol. Os hoffech gynorthwyo’r Eisteddfod megis trwy fod yn stiward, byddai’r swyddogion yn falch iawn o glywed gennych. Cysylltwch gyda’r Ysgrifennydd Cyffredinol, Dorian Jones (01570 422678) i drafod sut allwch gyfrannu.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu gan ddymuno’n dda i’r holl gystadleuwyr yn Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbedr Pont Steffan Gŵyl Banc Awst (Sadwrn 26ain, Sul 27ain a’r Llun 28ain) 2023.