Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbed…Llywyddion 2023

Mae’r Beirniaid, Cyfeilyddion a’r Arweinyddion yn barod!

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
IMG_5885

Poster digwyddiadau’r Eisteddfod a gyhoeddwyd ar Caru Llanbed

Edrychwn ymlaen at groesawu Llywyddion Eisteddfod 2023. Yr Hybarch Eileen Davies, Archddiacon Aberteifi sy’n byw yn Llanllwni yw’r Llywydd ar y dydd Sadwrn. Y cerddor amryddawn J. Eirian Jones, Cwmann, yw’r Llywydd yn Llais Llwyfan Llanbed ar y nos Sul. Croesewir Hywel a Heulyn Roderick, sydd â’u gwreiddiau yn Llanbed, yn Llywyddion ar y dydd Llun.

Y Canon Aled Williams, Llanllwni fydd yng ngofal Gwasanaeth Undebol yr Eisteddfod yng Nghapel Shiloh am 10.30 o’r gloch ar y bore Sul. Y Cynghorydd Rhys Bebb Jones, Maer Llanbedr Pont Steffan a’r Faeres Shân Jones fydd yn agor diwrnod ola’r Eisteddfod am 11.15 ar y bore Llun.

Ni ellir cynnal yr Eisteddfod heb feirniaid! Edrychwn ymlaen at groesawu:

  • Cerdd: Aled Hall, Aled Maddock, Jonathan Morgan, Meinir Richards, Nicky Roderick a Fflur Wyn
  • Cerdd Dant ac Alaw Werin: Nia Clwyd
  • Llefaru: Ann Davies a Dyfrig Davies
  • Llenyddiaeth: Emyr Davies a’r Prifardd Tudur Dylan Jones
  • Celf a Chrefft: Cerys Pollock a Wendy Thomas.

Mae cyfraniad cyfeilyddion yr Eisteddfod hefyd yn allweddol. Cawn glywed doniau J. Eirian Jones, Manon Fflur Jones, Rhiannon Pritchard a’r delynores Gwawr Taylor. Yn cadw trefn o’r llwyfan fydd yr arweinyddion sef Lena Jenkins, Dorian Jones, Llinos Jones, Rhiannon Lewis, Delyth Morgans Phillips, Manon Richards, Hywel Roderick ac Elin Williams.

Os nad ydych eto wedi cael eich copi o Raglen yr Eisteddfod, cewch gopi yn nifer o siopau tref Llanbed. Ceir mynediad at gopi electronig ohoni ar wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru (https://steddfota.cymru/wp/testunau/) ac yn yr erthygl a gyhoeddwyd ar wefan Clonc360: https://clonc.360.cymru/2023/rhaglen-eisteddfod-rhys-thomas-james-pantyfedwen/

Mae’n nodi’r holl gystadlaethau a hefyd manylion rownd derfynol Llais Llwyfan Llanbed sy’n dathlu 30 mlynedd eleni. Braf croesawu Aled Hall (enillydd cynta’r gystadleuaeth yn 1993) a Fflur Wyn (yr enillydd yn 2001) yn ôl yn feirniaid. Disgwylir gwledd o ganu nos Sul 27ain am 7.00 o’r gloch yn yr Hen Neuadd gan Dafydd Jones (tenor), Manon Ogwen Parry (soprano), Angharad Rowlands (mezzo-soprano) ac Owain Rowlands (bariton). Mae’n gaddo i fod, yng ngeiriau Fflur Wyn, “yn gyngerdd heb ei hail”. Cewch wybod mwy am y gystadleuaeth ar Clonc360 yn erthyglau Dylan Lewis (https://clonc.360.cymru/2023/enwau-mawr-canu-llanbed-heddiw/) a Delyth Morgans Phillips (https://clonc.360.cymru/2023/llais-llwyfan-llanbed-2023/).

Cewch hefyd yn y Rhaglen wybodaeth am noddwyr y gwobrau a’r busnesau sy’n hysbysebu a chefnogi’r Eisteddfod yn ariannol sy’n cynnwys Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Tref Llanbedr Pont Steffan. Diolch yn fawr iddynt i gyd am eu cyfraniadau tuag at gynnal a chefnogi’r Eisteddfod. Cofiwn ninnau amdanynt hwythau wrth siopa a chefnogwn fusnesau lleol a charedigion yr Eisteddfod hon.

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn yr Eisteddfod ar Gampws Llanbed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae digon o feysydd parcio ganddynt a’r parcio’n ddi-dâl dros benwythnos yr Eisteddfod. Bydd yr Eisteddfod yn cychwyn am 1.30 o’r gloch prynhawn Sadwrn 26ain ac am 11.15 bore Llun 28ain yn Neuadd y Celfyddydau. Cynhelir Talwrn y Beirdd nos Lun 28ain am 7.00 o’r gloch yn yr Hen Neuadd. Bydd yn braf cyfarfod i ddathlu ein diwylliant a chroesawu’r cystadleuwyr, beirniaid, noddwyr a’r gynulleidfa yn ôl i Lanbed y penwythnos hwn.