Elin Cyw yn perfformio mewn gŵyl newydd ym mhentref Cwmann

Seren S4C yn diddanu plant yng Nghwmann ddydd Sadwrn

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Cynhelir gŵyl newydd sbon yng Nghae Pentref Cwmann ddydd Sadwrn gyda llawer o atyniadau a’r nod i ddod a’r gymuned at ei gilydd.

Yn draddodiadol, carnifal y pentref a gynhaliwyd yr adeg hon o’r flwyddyn, ond eleni mae’r pwyllgor bach gweithgar yn arbrofi gyda rhywbeth gwahanol ar ôl cynnal holiadur cyhoeddus yn holi barn pobl y pentref.

Am dri o’r gloch y prynhawn bydd Elin Haf Jones, un o gyflwynwyr rhaglenni Cyw S4C yn diddanu’r plant gan ganu, dawnsio a darllen stori.

Daw Elin, neu Elin Lifestyle fel ei hadnabyddwyd, o Faesycrugiau yn wreiddiol ac mae wedi bod yn gyflwynydd poblogaidd ar raglenni plant S4C ers 2017.  Mae’n gwethio llawn amser ar raglenni Cyw gan ffilmio yng Nghaerdydd ond yn ysgrifennu’r rhan fwyaf o’r sgriptiau o gartref.

Dywedodd Elin,

“Rwy’n edrych mlan i berfformio ddydd Sadwrn i blant lleol cyn wythnos bishi iawn yn diddanu plant Cymru gyfan yn ’Steddfod yr Urdd wythnos nesa!”

O ran gweddill arlwy’r Ŵyl, bydd gorymdaith yn dechrau o Sgwâr Cwmann am 1 o’r gloch ac ym ymlwybro tuag at gae’r pentref.  Gellir gwisgo gwisg ffansi pe dymunir.  Bydd mabolgampau yn dechrau am ddau o’r gloch.  Sgiliau Pêl-droed a rownderi i oedran uwchradd am bedwar o’r gloch a pherfformiad gan y gantores Rhiannon O’Connor gyda’r hwyr am hanner awr wedi chwech.

Dywedodd Sian Roberts Jones, sy’n aelod o’r pwyllgor,

“Ni’n gyffrous iawn – ma gennym bwyllgor newydd sbon sy’n cynnwys rhyw ugain o ieuenctid y pentref.  Ar ôl 3 blynedd o beidio cynnal y Carnifal a’r Mabolgampau, teimlwyd ei bod hi’n gyfle i roi gweddnewidiad i’r digwyddiad a chynnwys amrywiaeth o weithgareddau bach i bob oedran. Felly, dyma ni – Gŵyl Mai! Dewch i fwynhau yn yr heulwen. Croeso i bawb.”

Yn ystod y dydd hefyd, bydd bwyd gan Sefydliad y Merched, bar i oedolion, peiriant gwerthu llaeth ac ysgytlaeth, hufen ia, coffi arbennig a barbyciw.