Elonwy yn cyrraedd y brig ym meysydd Pêl-rwyd a Dartiau

Merch o Lanfair yn ennill gwobrau pêl-rwyd a chynrychioli Cymru ym myd y dartiau

gan Dan ac Aerwen
Elonwy-Player-of-Season-2

Ar noson wobrwyo ddiwedd tymor Clwb Pêl-rwyd Llewod Llanbed cafodd Elonwy Thomas, Awelon, Heol Llanfair lwyddiant arbennig.

Enillodd  y wobr am bresenoldeb gorau a chwaraewraig orau’r tymor o dan 16. Hi hefyd oedd yr orau am yr amryw-safle yn yr adran hŷn a hithau oedd chwaraewraig y tymor gan y chwaraewyr, y pwyllgor a’r hyfforddwyr dros y clwb cyfan.

Mae wedi bod yn chwaraewraig awyddus ers yn 10 oed. Gwnaeth ei hymddangosiad cyhoeddus cyntaf gyda sgwod cynghrair Llewod y Sir a chwarae gyda merched hŷn.  Y tymor yma, mae wedi cwblhau Cymhwyster Arweinydd Pêl-rwyd gyda Chymdeithas Pêl-rwyd Cymru a bydd yn dechrau ar ei chymhwyster dyfarnu nes ymlaen eleni.

Mae Elonwy hefyd wedi cynrychioli timau pêl-rwyd blwyddyn 10 a Chweched Dosbarth yn Ysgol Bro Pedr ac wedi trefnu gemau hwyliog merched yn erbyn bechgyn yn ystod y flwyddyn.

Digwyddiad mwyaf pwysig tymor 2022/23 fydd gemau 5 bob ochor hwyl Cwpan y Byd ar Orffennaf 20fed pan fydd Elonwy yn gapten tîm y teulu ac Alex, Llinos, Brynmor a William yn ymuno â hi i gynrychioli Malawi. Mae pob tîm wedi cael eu henwi ag enw gwlad o restr timau sy’n cymryd rhan yng ngemau Pêl-rwyd Bywiogrwydd Cwpan y Byd a gynhelir yn Cape Town, De Africa ar Orffennaf 28ain.

Pob lwc hefyd i Elonwy, sydd yn cyfnewid cwrt pêl-rwyd am yr oche wythnos hon. Bydd Elonwy yn cystadlu dros Dîm Dartiau Ieuenctid Cymru yng Nghwpan Ewrop yn Fienna. Mae Elonwy wedi cael ei gêm gyfartal yn erbyn Slofacia a Hwngari yn rowndiau cyntaf cystadleuaeth y senglau, ac yn erbyn Lloegr a’r Almaen yn rowndiau cynnar y gystadleuaeth parau merched.

Mae Llewod Llanbed yn cwrdd ar nos Iau yn Neuadd y Chwareuon, Prifysgol Dewi Sant a mae croeso cynnes bob amser i aelodau newydd o bob oedran a sgiliau. Cysylltwch ar dudalen Facebook —Llewodllambedlampeterlionesses am ragor o wybodaeth.