Enillwyr cyntaf Gwobr Goffa Hag Harris

Tri o Lanbedr Pont Steffan yn cael eu henwi

gan Gwyneth Davies

Ifan Meredith, Osian Roberts ac Angharad Massow yw’r tri cyntaf i ennill Gwobr Goffa Hag Harris a drefnwyd mewn partneriaeth rhwng y Cyngor tref, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant,  Eiry Morgan a theulu’r diweddar Hag Harris. Bu farw Hag yn Haf 2022 a chofiwn yn annwyl amdano fel cyn Faer, Cynghorydd Tref, Cynghorydd Sir, cyn-fyfyriwr y Brifysgol a pherchennog siop Hag’s.

Gwobrau ar gyfer pobl sy’n byw yn Ward Etholiad Llanbedr Pont Steffan neu yn ddisgyblion yn Ysgol Bro Pedr yw’r rhain  a rhoddir ystyriaeth i’r rhai sy’n dymuno dilyn meysydd megis cerddoriaeth, busnes, addysg a chwaraeon gan fod y pynciau hyn o ddiddordeb mawr i Hag. Cyfle felly i anrhydeddu person addawol sy’n dangos ymroddiad ac ymrwymiad a’i helpu i gyrraedd ei lawn botensial. Rhoddir pwyslais hefyd ar waith cymunedol.

  • Mae Ifan Meredith sy’n ddisgybl yn Ysgol Bro Pedr, yn newyddiadurwr addawol gyda Clonc360 ac mae ei gyfraniad cyson i’r wefan yn amhrisiadwy.
  • Mae Osian Roberts sydd hefyd yn ddisgybl yn Ysgol Bro Pedr yn athletwr ifanc arbennig sydd wedi cynrychioli Cymru ym myd athletau.
  • Mae Angharad Massow i’w chanmol yn fawr am sefydlu busnes cadw’n heini sy’n gwasanaethu cymuned tref Llambed.

Derbyniodd y tri dystysgrif a gwobr ariannol. Defnyddiodd Ifan yr arian i dalu am gwrs Newyddiaduraeth pum diwrnod lle’r oedd cyfle iddo ddysgu ystod o elfennau gwahanol o fewn y maes. Cynhaliwyd y cwrs gan gwmni ‘Investin’mewn amrywiol leoliadau yn Llundain. Bydd Osian yn defnyddio’r arian ar gyfer cwrs Hyfforddiant Chwaraeon ac Angharad eisoes wedi buddsoddi’r arian yn y busnes.

Y beirniaid oedd Eiry (partner Hag), y cyn Faer Helen Thomas a’r Profost PCYDDS Gwilym Dyfri Jones. Roedd y tri, ym marn y beirniaid, yn teilyngu’r gwobrau. Dywedodd Rhys Bebb, Maer y Dref:

‘Braint bod yn bresennol yn y Brifysgol ar ran y Cyngor Tref yn seremoni cyflwyno gwobrau sefydlwyd er cof am y diweddar Hag Harris. Bu farw Hag mis Mai y llynedd ac roedd yn ŵr uchel ei barch ac yn gyfaill i lawer. Derbyniwyd ceisiadau uchel eu safon, yn ôl y beirniaid, a dymunwn yn dda i’r tri ddaeth i’r brig ac i bawb gyflwynodd gais i’w hystyried am y wobr.’

Llongyfarchiadau calonnog felly i’r tri ohonoch a phob lwc i’r dyfodol.