Faint o draffig sydd yn ardal Tregaron?

TrawsCymru yn rhybuddio am draffig ‘Steddfod yn Nhregaron yn ystod yr wythnos.

gan Ifan Meredith

Blwyddyn nôl roedd Tregaron yn llawn pebyll, carafanau a phafiliwn ond tawelach yw hi erbyn hyn.

Mewn neges ar Facebook, mae TrawsCymru sydd yn rheoli bysiau ar ran Trafnidiaeth i Gymru yn rhybuddio gall eu gwasanaethau yn ardal Tregaron gael eu heffeithio gan yr ŵyl sy’n cael ei chynnal yn ardal Boduan yng Ngwynedd. Gobeithio mai camgymeriad amlwg yw hyn a neges sydd flwyddyn yn hwyr yn hytrach na phrysurdeb yr Eisteddfod yn achosi tagfeydd 95 milltir i ffwrdd!

Wrth i lawer ymlwybro i’r Eisteddfod dros yr wythnos nesaf, dyma fap sydd yn dangos i chi sut i gyrraedd y maes:

Eisteddfod Genedlaethol

Yn ogystal, mae’r holl sydd angen i chi wybod ar gael am ddim ar ap yr Eisteddfod sydd ar gael i’w lawrlwytho o’ch siop apiau ar ffôn symudol neu dabled.

Pob lwc i bawb sy’n cystadlu yn ystod yr wythnos!