“Ar dy Feic” – ewch ati i bedlo!

Cefnogwch eich tref – pŵer pedal!

gan claire hamer
Photo1

Lansio beiciau Cae Sgwar (Aberaeron),

Photo 2

Lansio beiciau Gerddi Victoria (Aberteifi)

Photo 3

Lansio beiciau Parc yr Orsedd (Llambed)

Ar gyfer mis Gorffennaf 2023, bydd Iechyd a Gofal Gwledig Cymru (IGGC), mewn cydweithrediad â The Great Outdoor Gym Company (TGOGC), yn cynnal cystadleuaeth rhwng trefi Aberaeron, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan, i weld pa dref sy’n cynhyrchu’r pŵer mwyaf o’r beiciau statig sydd wedi eu lleoli yng Nghae Sgwâr (Aberaeron), Gerddi Victoria (Aberteifi) a Parc yr Orsedd (Llanbedr Pont Steffan).

Lleolwyd y beiciau yn y trefi fel rhan o’r prosiect “Ar dy Feic” sy’n cael ei redeg gan Iechyd a Gofal Gwledig Cymru (www.iechydagofalgwledig.cymru), a ariennir gan Cynnal y Cardi, sydd â’r nod o annog gweithgarwch corfforol ymhlith pobl ifanc drwy roi iddynt y cyfle i ddefnyddio beiciau statig sy’n cynhyrchu pŵer yn yr awyr agored i wefru eu ffonau a’u dyfeisiau symudol. Gall unrhyw un o unrhyw oedran ddefnyddio’r beiciau, gyda detholiad o feiciau sbin traddodiadol neu feiciau llaw ar gael sy’n anelu at annog ffordd fwy egnïol ac iachach o fyw, gan gysylltu hamdden awyr agored â thechnoleg ac ynni adnewyddadwy.

Bydd y pŵer sy’n cael ei gynhyrchu drwy bedlo’r beiciau yn ystod mis Gorffennaf yn cael ei gofnodi ar ddangosfwrdd canolog a’r dref sy’n cynhyrchu’r pŵer mwyaf fydd yn ennill y gystadleuaeth! Fel cymhelliant pellach, am bob cilowat o ynni a gynhyrchir, bydd TOGGC yn plannu 50 o goed fel rhan o Brosiect Ailgoedwigo Eden (www.edenprojects.org), sydd â 10 safle plannu coed ar draws y byd ac yn darparu cyfleoedd cyflogaeth leol gyda chyflog teg, wrth wrthweithio datgoedwigo.

Cefnogwch eich tref yn y gystadleuaeth hwyliog hon a cheisiwch bedlo mor aml ag y gallwch!

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Claire Hamer, Swyddog Ymchwil a Datblygu, IGGC ar 01970 628962 / claire.hamer@wales.nhs.uk.