Glanhau’r strydoedd wedi penwythnos prysur

Cynghorwyr lleol yn defnyddio bon braich i gadw Llanbed yn daclus

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Gwelwyd cynghorwyr tref Llanbed o gwmpas strydoedd Llanbed yn ystod oriau mân bore Sul yn glanhau’r strydoedd wedi penwynos rhyfeddol o brysur i’r dref.

Daeth tyrfaoedd i Lanbed ar gyfer Parêd Gŵyl Dewi ac Eisteddfod Ryng-golegol Cymru ar ddydd Sadwrn ac i weld dechrau Rali Bro Caron ym mherferddion bore Sul.

O ganlyniad i hyn oll roedd biniau strydoedd y dref yn gorlenwi, a sbwriel o gwmpas y lle.

Yn y llun gwelir Maer y Dref y Cynghorydd Helen Thomas ynghyd â’r Cynghorydd Gabrielle Davies a’r Cynghorydd Ann Bowen Morgan gyda’u hoffer glanhau yn y Stryd Fawr.

Dywedodd y Cynghorydd Helen Thomas tua hanner dydd ar ddydd Sul “Mae lori bagiau du newydd fod trwy’r dref, felly rhwng Cyngor Sir Ceredigion a’r Cyngor Tref dylai fod yn daclus nawr ar ôl penwythnos gwych i’r dref.”

Roedd y Cynghorydd Helen Thomas yn annerch y dorf fel y Maer ar ddiwedd y Parêd ac yn yr Eisteddfod Ryng-gol ar ddydd Sadwrn.  Nid menyw seremoni a phwyllgor yn unig yw hi, roedd hi’n torchi llewys yng nghwmni eraill ar fore Sul er mwyn cadw’r dref yn gymen.

Y cynghorydd Ann Bowen Morgan oedd yn arwain y pwyllgor bach gweithgar er mwyn trefnu’r Parêd blynyddol, a chwarae teg iddi hi a’r Cynghorydd Gabrielle Davies am gymryd rhan yn y glanhau hefyd.  Mae’r Cynghorydd Ann Bowen Morgan yn gynghorydd sir hefyd.

Aelodau prysur o’r cyngor tref, yn aelodau ymarferol iawn yn ogystal.