Ar ddechrau Mehefin, gosodwyd system teledu cylch cyfyng uwch-dechnoleg yn hen Ysgol y Dolau, Llanybydder yn dilyn cyfres o fandaliaeth, lladradau a graffiti.
Wrth deithio ar y brif ffordd rhwng Llanybydder a Llanllwni gellir ond edmygu urddas y plasdy hynafol ar draws y cwm, ond wrth graffu’n agosach ar y lle sydd wedi bod yn wag ers sawl blwyddyn bellach, sylweddolir ar ddirywiad mawr yn ei gyflwr.
Rhybuddia’r perchnogion Wellcome Care Homes bod y system newydd wedi ei chysylltu â’r Heddlu a bydd unrhyw achosion pellach o dresmasu yn arwain at erlyniad posibl.
Gofynnir i rieni yn y gymuned i ddweud wrth eu plant bod Ysgol y Dolau bellach wedi’i goruchwylio gan deledu cylch cyfyng a’i bod yn lle peryglus i fynd iddo.
Gofynnwyd i gynrychiolydd o Wellcome Care Homes am fwy o wybodaeth, ond ni chafwyd unrhyw ymateb yn anffodus.
Yr un cwmni sy’n rhedeg cartref yr Annedd yn Llanybydder a Blaendyffryn, ac mae’n debyg y bu ganddynt gynlluniau unwaith i drawsnewid Ysgol y Dolau ac agor cartref henoed yno hefyd.
Mae’n debyg bod gwaith adnewyddu wedi dechrau yno ar un cyfnod, ond daeth i ben am ryw reswm.
Dywedodd Kay Davies o Lanybydder,
“Ma fe’n uffach o bechod fod Ysgol Dolau wedi cal ei gadel i fynd, achos ma fen le mor bwysig i ni yn lleol – a i fi yn bersonol, gan fod Tadcu di gweithio na fel garddwr am dros 35 o flynydde.”
Ar youtube, gellir gweld nifer o fideos gan unigolion a grwpiau yn tresmasu yn Ysgol y Dolau. Nid fideos gan bobl leol o anghenraid ond gan bobl o bell sy’n ffilmio anturiaethau er mwyn darganfod hen adeiladau gwag sydd wedi eu gadael dros y blynyddoedd.
Ychwanegodd Kay Davies,
“Ma fe’n ofnadw beth sy di digwydd. Sa i’n gallu deall pam bydde rhywun ishe sarnu lle mor spesial. Graffiti a rhyw chwarae plant yn ddigon gwael, ond ma rhacso a dwgyd pethe yn ofnadw. Sa i’n gwbod beth ddeith o’r lle nawr.”
Yn 2016 adroddwyd bod Ysgol y Dolau ar werth,
Agorwyd Ysgol y Dolau yn adeilad mawreddog hen Blas y Dolau yn 1956. Ysgol breswyl a ariannwyd gan y dair sir oedd hon ar gyfer disgyblion ag angenion dysgu arbennig. Ychwanegwyd adeiladau pwrpasol i’r hen blasdy yn ystod y pumdegau a bu’n ysgol lwyddiannus a chartrefol iawn yn ei dydd. Ceuwyd drysau’r ysgol yn y nawdegau gyda newidiadau ym mholisi addysg.
Wedi dyddiau’r ysgol, defnyddiwyd y lle fel Coleg Islamaidd o 1998 ymlaen. Adroddwyd bod llofrydd y Ffiwsilwr Lee Rigby, sef Michael Adebowale, wedi mynychu’r lle yn 2012. Yn dilyn ymchwiliad gan MI5 daethpwyd i’r canlyniad ’nad oedd yn lle eithafol’.
O wylio’r fideos ar youtube, beth sy’n taro gwylwyr yw pa mor anferth yw’r lle a pha mor fawreddog y bu ar un amser. Y tristwch wedyn yw gweld y lle wedi dirywio cymaint gyda ffenestri wedi torri, lloriau wedi codi a dŵr yn dod mewn trwy’r to.
Prysured y dydd pan y gellir gwneud defnydd da o’r lle unwaith eto ac y daw llewyrch i’w llwybrau. Yn y cyfamser, gofynnir i bawb i gadw draw.