Na, peidiwch â phoeni, sai wedi derbyn yr alwad gan Steven Spielberg i serennu yn ei ffilm ddiweddaraf, na chwaith wedi priodi un o’r enwau mawr sy’n byw yno … wel, dim eto!
Ond beth felly oedd Cymro bach o’r wlad fel fi yn ei wneud yn cerdded ar hyd strydoedd serennog LA fis Awst eleni? Wel, credwch neu beidio, ro’n i yno oherwydd y Ffermwyr Ifanc. Ie, y Ffermwyr Ifanc.
Bob blwyddyn, mae C.Ff.I Cymru yn cynnig i’w aelodau raglen o deithiau rhyngwladol y gallan nhw ymgeisio amdanyn nhw – cyfle i weld y byd, gwneud ffrindiau newydd, a chwifio’r faner dros Gymru a’r C.Ff.I. Ac eleni, fe ges i a 12 aelod arall o wahanol rannau o Gymru gyfle i fynd i ‘Orllewin Gwyllt’ yr Unol Daleithiau. Ac am brofiad a hanner oedd hi hefyd!
Los Angeles neu ‘Ddinas yr Angylion’ oedd y gyrchfan gyntaf, ac er na welais i’r un angel yno, roedd digon o sêr i’w gweld ar hyd y Walk of Fame – wel, eu henwau nhw beth bynnag! Roedd yr arwydd ‘HOLLYWOOD’ enwog i’w weld fry uwchlaw ar y bryniau hefyd, ond mae’n siŵr mai’r arwydd gorau a welais i, a hwnnw reit yng nghanol ardal Hollywood ei hun, oedd un ag arno ‘Welcome to Wrexham’. Mae pobol LA yn gwybod yn iawn am Wrecsam erbyn hyn diolch i Ryan Reynolds a Rob McElhenney. Yn wir, gofynnodd un gyrrwr tacsi i fi ai rhan o Wrecsam yw Cymru! Ond ’na fe, mae’n well na chael ein gweld yn rhan o Loegr, sbo …
Mae UDA yn enwog am ei pharciau cenedlaethol, ac fe gawson ni gyfle i weld tri mawr – y Grand Canyon, Bryce Canyon a Zion. Roedd y dirwedd yn y tri pharc yn hollol wahanol i’w gilydd, ond yr un mor rhyfeddol. Wrth gerdded ar hyd y dyffrynnoedd cul, fe allech gredu eich bod yn ôl yn Oes y Deinosoriaid. Fyddwn i ddim wedi synnu gweld T-Rex yn llechu rownd y gornel, neu Pterodactyl yn hedfan dros y creigiau – roedd teimlad mor gynhanesyddol i’r cyfan. Ond eto, mae’n anodd credu bod rhywle fel y Grand Canyon yn gymharol ifanc yng nghyd-destun hanes y byd. Dim ond chwe miliwn o flynyddoedd yn ôl y cafodd ei ffurfio, tra diflannodd y deinosoriaid olaf 65 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Ac mae hanes dyn yn fach iawn o’i gymharu â hyn i gyd.
Os wnaeth golygfeydd y Grand Canyon ein sobri, roedd goleuadau Las Vegas yn ddigon i’n gwneud ni fel arall, a dyna lle diweddwyd y daith ar ôl chwe diwrnod o gampio yn y gwyllt. Maen nhw’n dweud bod un trip i Las Vegas a’r palasau pleser yn ddigon, ac mae hynny’n eitha’ gwir. Roedd hi’n 40˚ Celsius dan haul y pnawn a 35˚ yn y nos, a dyw hynny ddim yn syndod o gofio bod y ddinas ei hun yng nghanol yr anialwch. Ond roedd hi’n ddigon cŵl yn y casinos – a digon yno i’n diddanu ni hefyd!
Nawr, dydw i ddim yn un sy’n gamblo llawer – yr unig gamblo dwi’n ei wneud yw prynu raffl ar Noson Tân Gwyllt Clwb Pontsiân – ond dwi’n cyfaddef rhoi cynnig ar un o’r slot machines. Fe waries i $1 – a cholli 78c. A dyna pryd y penderfynais i nad oedd lwc ar fy ochr. Felly na, wnes i ddim ennill y jacpot yn Las Vegas!
Ar ôl dychwelyd i Gymru fach, dwi’n holi fy hun a oedd y cyfan werth e? Roedd hi’n daith heb ei hail a byddwn i’n argymell yn gryf i unrhyw un fynd i lefydd fel y Grand Canyon, Bryce Canyon a Zion a’u gweld â’u llygaid eu hunain. Pe bai rhywun yn cynnig i fi fynd ar yr un daith eto, byddwn i’n bendant yn neidio ar y cyfle. A phwy a ŵyr, efallai y daw’r alwad o Hollywood ryw ddydd …