Mae’r Cynllun Adfer a Thwf Economaidd drafft ar gyfer Llanybydder wedi’i gyhoeddi fel rhan o Fenter Deg Tref Cyngor Sir Caerfyrddin, ac mae ar gael i’w ddarllen a chyflwyno sylwadau, drwy’r wefan ryngweithiol
Mewn ymateb i COVID-19, mae’r Cyngor Sir wedi sefydlu adnoddau sylfaenol i gefnogi adferiad a thwf trefi gwledig, a bydd ystod o fentrau a chymorth busnes newydd ar gael.
Mae prif bwyslais y Cynllun Twf ar arallgyfeirio’r economi leol a datblygu sail fusnes leol fwy gwydn y tu hwnt i amaethyddiaeth. Dros y tymor byr a’r tymor canolig, y nod yw adnabod a chefnogi cyfleoedd i’r busnesau gweithgynhyrchu a dosbarthu lleol dyfu.
Y prif rwystr yw’r diffyg lleoedd cyflogaeth i annog cychwyn busnesau newydd ac ehangu rhai sy’n bod eisoes. Mae angen hefyd am seilwaith ddigidol o ansawdd uchel (band eang a symudol) law yn llaw â gwell rhagolygon am dai newydd a fforddiadwy, sy’n hanfodol er mwyn cadw pobl ifanc yn yr ardal leol a mynd i’r afael ag economi cyflogau isel a sgiliau isel.
Dyma gyfle unigryw i fusnesau lleol a’r gymuned ehangach wneud sylwadau trwy’r wefan erbyn 19eg Mawrth 2021. Mae copïau caled o’r cynllun ar gael i’w gweld yn y Swyddfa Bost i’r rheiny heb fynediad i’r wefan.
Dywed y Cyng. Denise Owen sy’n aelod o Gyngor Cymuned Llanybydder “Mae hwn yn gyfle pwysig i drigolion a busnesau Llanybydder a’r ardal gyfagos. Mae gennym gyfle i gyflwyno syniadau i sicrhau y gall yr economi leol wella a thyfu cyn gynted â phosibl ar ôl Covid-19.”
Ychwanega Denise “Mae angen i ni wneud yr ardal yn ddeniadol i bawb – boed hynny ar gyfer busnes neu bleser. Cymerwch amser i ymateb yn gadarnhaol i’r Cynllun.”