Gŵyl Flodau Eglwys Sant Tomos, Llanbedr Pont Steffan

Gwledd o liwiau hardd ac arogl hyfryd

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
IMG_7018

Y Parch. Flis Randall a’r tîm gyda Maer a Maeres Llanbed wnaeth agor yr Ŵyl Flodau

IMG_7026

Y blodau lliwgar yn addurno ardal pulpud yr eglwys

IMG_7031

Diana Williams gyda threfniant blodau lliwgar Cymdeithas ‘Macular’ Llanbed

IMG_7037

Yr arddangosfa hardd groesawgar yng nghyntedd yr eglwys

IMG_7033

Y tîm yn gweini’r te, coffi a’r cacennau cartref blasus

Fe’i cynhaliwyd dydd Sadwrn 30ain Medi a dydd Sul 1af Hydref. Fe’i hagorwyd bore Sadwrn gan Y Maer, y Cynghorydd Rhys Bebb Jones a’r Faeres, Shân Jones. Croesawyd hwynt gan y Gweinidog, Y Parchedig Flis Randall, a’r tîm gweithgar o wirfoddolwyr fu’n gosod yr holl flodau yn addurniadau lliwgar yn yr eglwys. Rhyfeddwyd at y sioe drawiadol o flodau a phlanhigion eraill yn harddu pob rhan o’r adeilad.

Addurnwyd sawl ffenestr ar themâu penodol gan gynnwys un yn felyn llachar yn hyrwyddo gwaith elusennol y Gymdeithas ‘Macular’ yn Llanbed tan ofal Diana Williams. ’Roedd sawl mudiad ag arddangosfa flodau yno megis Sefydliad y Merched, y Sgowtiaid a Grŵp Bore Coffi Eglwys Sant Tomos. Cefn gwlad oedd y thema ddewiswyd i addurno’r ardal oddiamgylch y pulpud. Bu sawl plentyn yn chwilota am y ddau dractor yn ‘cuddio’ ymysg y blodau’n addurno gwaelodion y pulpud! Rhyfeddwyd at ddyfeisgarwch y tîm fu’n addurno megis y defnydd a wnaed o welintons yn dal tusw o flodau yng nghyntedd yr eglwys.

‘Roedd yno de a choffi a sawl plât o gacennau a bisgedi, cyfle i brynu cacen a thocyn raffl i geisio ennill basged yn llawn danteithion blasus. ’Roedd yno hefyd duswau o flodau ar werth a’r arian a gasglwyd yn mynd i gefnogi gwaith yr elusen ‘Action for Children’. Diolch yn fawr iawn i Eglwys Sant Tomos am eu croeso ac am ein swyno gyda’r holl arddangosfeydd blodau. Diolch yn fawr hefyd i’r canlynol am eu cyfraniadau hael: Cascade, Mark Lane, Outbloom Flower Farm a Sainsbury’s, Llanbed.