Gŵyl Flodau yn Llanbedr Pont Steffan

22ain- 24ain Medi yn Eglwys San Pedr

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
3c37cc7e-0735-4924-b887

22 – 24 Medi: Sadwrn 10am-6pm a Sul 2-5pm

IMG_6894

Mynedfa liwgar Eglwys San Pedr

IMG_6916

Maer a Maeres Llanbed o flaen un o’r ffenestri addurniedig llawn blodau

IMG_6890

Yr Eglwys a’r Bedyddfaen wedi eu haddurno gyda blodau

IMG_6871

Ardal yr Organ a’r Allor wedi eu haddurno gyda blodau

Dewch i eglwys hardd, hynafol San Pedr, Llanbed y penwythnos hwn. Cewch eich swyno gan yr holl liwiau ac arogl y blodau a’r planhigion eraill sy’n harddu’r eglwys. Miloedd wedi eu trefnu yn ofalus ac yn gelfydd yn gampweithiau lliwgar ymhob rhan o’r eglwys.

Cynhelir yr Ŵyl Flodau o ddydd Gwener 22ain hyd dydd Sul 24ain Medi. Mynediad am ddim a derbynnir rhoddion i gefnogi gwaith a chenhadaeth Eglwys San Pedr. Gwerthir te, coffi a chacennau cartref. Cewch hefyd gyfle i brynu tocynau raffl a phensiliau arbennig yn nodi’r Ŵyl Flodau.

Diolch yn fawr iawn i’r tîm brwdfrydig a gweithgar o wirfoddolwyr weithiodd am oriau yn trefnu’r holl arddangosfeydd. Diolch yn fawr hefyd i’r canlynol am eu cyfraniadau hael:

ADVE, Alison Kay Acupuncture, Artisan, Becws, Calico Kate, Carpet Corner, Cascade, Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan, D L Wiilliams, Duet, Evans & Hughes, Gabrielle Davies, Garej Troedrhiw, Gareth Richards, Gwili Jones, Gwilym Price ei Fab a’i Ferched, Gwyn Lewis Carpets, Huw Lewis Tyres, J & E Woodworks, Jones Butcher, Lampeter Freemasons, Leah @ Panacea, Milfeddygon Steffan, PJE Financial Services, Sainsburys, Salon Gem, Shapla, Vincent Davies, W D Lewis a’i fab ac Y Stiwdio Brint.

Dewch yn llu i Eglwys San Pedr i weld, rhyfeddu a mwynhau’r arddangosfa hon.