Lluniau gan Lou Summers
Bu rhedwyr Clwb Sarn Helen yn cystadlu yn Ras Gyfnewid Cestyll Cymru am y 15fed gwaith ar y 10fed a’r 11eg o Fehefin gan lwyddo i gynnal safon y blynyddoedd.
Gorffennwyd yn 15fed allan o 66 o glybiau a ddaeth o bob cwr o Gymru a Lloegr i gwblhau’r ugain cymal dros fryn a mynydd o Gaernarfon i Gaerdydd. Roedd ugain ras yn cychwyn ar ôl ei gilydd, deg cymal o Gaernarfon i’r Drenewydd ar y Sadwrn a deg oddi yno i Gaerdydd ar y Sul, yn amrywio rhwng 7 ac 13 milltir o ran hyd ac yn amrywio o ran tirwedd. Roedd rhai cymalau gwastad ar lwybrau beic ac ambell un mwy heriol fel y cymal i ben Mynydd Epynt.
Nid mater bach yw trefnu a chapteinio tîm o ugain yn y gystadleuaeth hon ond llwyddodd Carwyn Davies i sicrhau fod tîm cymysg y clwb o ddwy fenyw a deunaw dyn yn cwblhau’r 209 milltir mewn 23 awr 26 a 35 eiliad. Tîm Swydd Caint (19:46:34) oedd yn fuddugol a chlwb Pontypridd (yn 3ydd mewn 20:20:39) oedd y blaenaf o glybiau Cymru.
Yn sicr y mae’r ras hon a’i sefydlwyd ac a’i threfnir gan glwb Les Croupiers, Caerdydd, yn enghraifft unigryw o’r dimensiwn tîm mewn athletau a braidd yn annheg yw dewis uchafbwyntiau o blith ymdrechion yr ugain aelod a frwydrodd hyd eu gallu yn erbyn gwres trymaidd y penwythnos hwn, ond yr oedd nifer ohonynt yn teilyngu clod arbennig am orffen yn yr ugain cyntaf – Ollie George (9fed ar gymal 9 o Lanfair Caereinion i’r Drenewydd), Sam Harrison Paul a Gareth Payne (11eg eu dau ar gymalau 7 a 8 rhwng Dolgellau a Moel), George Eadon (14eg ar gymal 12 o Lanbadarn Fynydd i’r Groes), Glyn Price a Steffan Walker (15fed eu dau ar gymalau 13 a 14 rhwng y Groes a phen Mynydd Epynt), Mark Rivers (13eg ar gymal 17 o Dorpantau i Ferthyr) a Daniel Jones (19eg ar y cymal olaf o Gaerffili i Gastell Caerdydd.)
Er mor uchel oedd safon y cystadlu ym mhob cymal rhaid cydnabod ei fod yn amrywio ac mae holl aelodau’r tîm yn haeddu cael eu llongyfarch.