Ras Gyfnewid Cestyll Cymru

Clwb Sarn Helen yn cynnal y safon

gan Richard Marks
Ollie-George

Ollie George yn cyrraedd y Drenewydd

Dylan-Davies

Dylan Wyn Davies yn ystwytho

Dee-Jolly

Dee Jolly ar y llwybr

Lou-Summers-a-Sam-Harrison-Paul

Lou Summers a Sam Harrison Paul

Gareth-Payne

Gareth Payne yn ymlacio

Arwyn-Davies

Arwyn Davies yn y Fermo

Glyn-Price

Glyn Price a’i gapan haul

Mark-Rivers

Mark Rivers ar y Ffordd i Merthyr

George-Eadon

George EADON yn Llanbadarn Fynydd

Irfon-Thomas

Iron Thomas yng ngwres y dydd

Daniel-Jones

Daniel Jones yn paratoi am y cymal Olaf

Richard-Marks

Richard Marks ar Lwybr Taf

Carwyn-Davies-a-Mick-McGeoch

Carwyn Davies gyda Mick McGeoch o glwb Les Croupiers

Lluniau gan Lou Summers

Bu rhedwyr Clwb Sarn Helen yn cystadlu yn Ras Gyfnewid Cestyll Cymru am y 15fed gwaith ar y 10fed a’r 11eg o Fehefin gan lwyddo i gynnal safon y blynyddoedd.

Gorffennwyd yn 15fed allan o 66 o glybiau a ddaeth o bob cwr o Gymru a Lloegr i gwblhau’r ugain cymal dros fryn a mynydd o Gaernarfon i Gaerdydd.  Roedd ugain ras yn cychwyn ar ôl ei gilydd, deg cymal o Gaernarfon i’r Drenewydd ar y Sadwrn a deg oddi yno i Gaerdydd ar y Sul, yn amrywio rhwng 7 ac 13 milltir o ran hyd ac yn amrywio o ran tirwedd.  Roedd rhai cymalau gwastad ar lwybrau beic ac ambell un mwy heriol fel y cymal i ben Mynydd Epynt.

Nid mater bach yw trefnu a chapteinio tîm o ugain yn y gystadleuaeth hon ond llwyddodd Carwyn Davies i sicrhau fod tîm cymysg y clwb o ddwy fenyw a deunaw dyn yn cwblhau’r 209 milltir mewn 23 awr 26 a 35 eiliad. Tîm Swydd Caint (19:46:34) oedd yn fuddugol a chlwb Pontypridd (yn 3ydd mewn 20:20:39) oedd y blaenaf o glybiau Cymru.

Yn sicr y mae’r ras hon a’i sefydlwyd ac a’i threfnir gan glwb Les Croupiers, Caerdydd, yn enghraifft unigryw o’r dimensiwn tîm mewn athletau a braidd yn annheg yw dewis uchafbwyntiau o blith ymdrechion yr ugain aelod a frwydrodd hyd eu gallu yn erbyn gwres trymaidd y penwythnos hwn, ond yr oedd nifer ohonynt yn teilyngu clod arbennig am orffen yn yr ugain cyntaf –  Ollie George (9fed ar gymal 9 o Lanfair Caereinion i’r Drenewydd), Sam Harrison Paul a Gareth Payne (11eg eu dau ar gymalau 7 a 8 rhwng Dolgellau a Moel), George Eadon (14eg ar gymal 12 o Lanbadarn Fynydd i’r Groes), Glyn Price a Steffan Walker (15fed eu dau ar gymalau 13 a 14 rhwng y Groes a phen Mynydd Epynt), Mark Rivers (13eg ar gymal 17 o Dorpantau i Ferthyr) a Daniel Jones (19eg ar y cymal olaf o Gaerffili i Gastell Caerdydd.)

Er mor uchel oedd safon y cystadlu ym mhob cymal rhaid cydnabod ei fod yn amrywio ac mae holl aelodau’r tîm yn haeddu cael eu llongyfarch.