Heddlu arfog ym Milfeddygon Steffan heddiw

Pryderon am les dyn yn Llanbed

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
9E46D7C1-DA52-4088-9A80

Galwyd heddlu arfog i Lanbed heddiw.  Gwelwyd y cerbyd yn teithio ar frys drwy Stryd y Bont gan ddiffodd y golau glas a’r seiren cyn mynd am y Stryd Fawr.

Roedd car yr heddlu wedi parcio ar y palmant a dau heddwas arfog mewn helmedau diogelwch yn adeilad Milfeddygon Steffan.

Dywed datganiad gan Heddlu Dyfed Powys,

“Cawsom ein galw i ardal Llanbedr Pont Steffan am 1.20yp oherwydd pryderon am les dyn. Mae wedi cael ei arestio ers hynny.”