Heddlu yn ymchwilio i alwadau o ddwyn da byw o ardal Mynydd Llanllwni

Apêl gan Dîm Troseddau Gwledig Heddlu Dyfed-Powys

gan Eleri Morgan

Llun gan John Atherton ar Wikipedia.

Mae tîm Troseddau Gwledig Heddlu Dyfed-Powys wrthi’n ymchwilio i sawl adroddiad o ddwyn da byw o ardal Mynydd New Inn a Llanllwni dros y misoedd diwethaf. Digwyddodd y troseddau ar dir preifat yn yr ardal ac nid ar y porfeydd tir comin.

Y tro cyntaf i’r heddlu glywed am hyn oedd ym mis Hydref 2022, lle cafodd 48 o ŵyn ifainc eu cymryd o gae caeedig ger New Inn.

Ddechrau Mawrth 2023, cymerwyd 42 o ŵyn benyw o leoliad arall gerllaw (cae caeedig).  Derbyniwyd y ddwy alwad ddiweddaraf ym mis Mai 2023.  Cafodd 33 anifail blwydd o frid Cymreig eu dwyn rhwng 18 a 21 Mai 2023.

Digwyddodd y lladrad diweddaraf rywbryd rhwng 24 a  27 Mai 2023. Cymerwyd 22 dafad o leoliad arall yn yr un ardal, sef 8 hwrdd, 1 famog ag oen, a 13 hesbin.

Amcangyfrifir bod cyfanswm colled ariannol y defaid a gafodd eu dwyn oddeutu £18,000.00.

Mae’r heddlu hefyd yn ymchwilio i ladrad pedwar llo ifanc o’r un ardal. Cafodd y lloi eu dwyn rhywbryd rhwng Mai a Thachwedd 2022. Amcangyfrifir bod cyfanswm gwerth y lloi oddeutu £4,800.

Mae’n ymddangos bod yr holl ddigwyddiadau sy’n ymwneud â defaid yr dywedir amdanynt wrth yr heddlu’n digwydd rhwng dyddiau Mercher a Sul. Oherwydd bod yr ardal yn anghysbell, nid oes gennym amser pendant i weithio arno. Gallai’r troseddau fod yn digwydd ar unrhyw adeg yn ystod y dydd neu’r nos.

Gwerthfawrogir bod hwn yn gyfnod hir o amser a bod yr ardal tir ffermio’n eang, felly mae’n annhebygol y gallai rhywun fod wedi tystio i unrhyw un o’r lladradau, fodd bynnag, mae’n bosibl bod aelodau o’r cymunedau ffermio a gwledig wedi dod ar draws rhai o’r anifeiliaid yn cael eu gwerthu.

Mae’r defaid i gyd wedi’u cymryd o gaeau fferm wedi’u ffensio, ac mae’n debygol eu bod wedi’u cludo mewn treilyr neu lori gan dîm sydd ag o leiaf un ci.

Mae’r gymuned ffermio yn yr ardal yn dioddef colled ariannol enfawr, ac mae’r heddlu’n awyddus i ddarganfod pwy sy’n gyfrifol am gyflawni’r troseddau. Rydym yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â’r heddlu, naill ai ar-lein, drwy anfon e-bost at 101@dyfed-powys.police.uk, neu drwy alw 101.

Gall pobl sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw, neu bobl sydd â nam ar eu lleferydd, anfon neges destun at y rhif difrys 07811 311 908.  Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol Taclo’r Tacle yn ddienw drwy alw 0800 555111, neu drwy alw heibio i wefan crimestoppers-uk.org.