Hwyl dda Carnifal Llanbed 2023 er gwaetha’r tywydd

Lluniau a chanlyniadau Carnifal Llanbed

gan Carnifal LLanbed
8230C15E-43AB-4A3E-923B

Y llywydd yn cyflwyno’r frenhines gyda’r morwynion a’r gweision.

D2320A87-4632-4531-83D6

Gwobr gyntaf am y fflôt i Gyngor Tref Llanbed.

B07228AE-672A-4017-80C4

Yr ail wobr am y fflôt i Garetref Hafan Deg.

15AB1ABB-08FA-4633-B839

Y drydedd wobr am y fflôt i Dîm Pêl-rwyd y Llewod.

332D6408-0799-4504-B52D

1af yn eu ddosbarth oedd Samson Morgan.

66DC931E-BC9E-41ED-8CE1

1af yn gyfan gwbwl oedd Celyn Jones.

46AAE832-AFE1-4E0C-956C

Pâr gorau yn y Carnifal a enillodd gwpan newydd er cof am Hag Harris oedd Sebastian a Toby Protheroe.

Y gwirfoddolwyr gweithgar.

Yn dilyn wythnos o weithgarwddau, cynhaliwyd Carnifal Llanbed ar ddydd Sadwrn Awst 12fed, diolch i griw gweithgar o wirfoddolwyr.  Er gwaetha’r tywydd garw, cafwyd ymateb creadigol i’r cystadlaethau i gyd.

Y dirprwy faeres oedd y llywydd sef Gabrielle Davies. Y beirniaid oedd Nicola Edwardes a Kathleen Hodgkinson.

Brenhines y Carnifal oedd Tia Gilbert.  Y Morwynion a’r gweision oedd Lottie Geobey, Ellis Allerton, Queenie Shore a Francis Rockery.

Gellir gweld ambell ganlyniad yn y lluniau uchod.