Bu tîm Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesi ac Effeithiolrwydd Adnoddau (INSPIRE) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch o gyflwyno menter arloesol sy’n cyfuno addysg ac adloniant, gan gyflwyno model rhyngweithiol o fewn y gêm fideo boblogaidd Minecraft.
Nod y prosiect hwn yw hybu Campws Llambed a’r ystod eang o gyrsiau sydd ar gael, gan ysbrydoli myfyrwyr i archwilio eu diddordebau mewn adeiladu, pensaernïaeth, yr amgylchedd adeiledig a thu hwnt.
Lansiwyd model rhyngweithiol Campws Llambed yn gyntaf yn Sioe Frenhinol Cymru, lle bu PCYDDS yn falch o gyflwyno ei byd Minecraft cyfareddol. Rhoddwyd gwahoddiad i ymwelwyr o bob oed ymdrochi yn y campws rhithiol gan ddefnyddio’r pensetiau rhithrealiti diweddaraf, sy’n cynnig profiad gwirioneddol wych ac ymdrochol. Roedd gweld cyfranogwyr o gefndiroedd gwahanol yn archwilio portread digidol o Gampws Llambed yn dyst i apêl eang y prosiect a’i effaith ddichonol.
Meddai Laura Cait Driscoll, un o gynrychiolwyr tîm INSPIRE PCYDDS:
“Buom wrth ein boddau i arddangos ein Campws Llambed drwy fyd rhithiol Minecraft yn Sioe Frenhinol Cymru. Roedd gweld ymwelwyr o bod oed yn ymgysylltu â’n model rhyngweithiol gan ddefnyddio pensetiau rhithrealiti yn wirioneddol hyfryd. Roedd yr adborth hynod gadarnhaol a dderbyniwyd gennym yn ein hannog i sicrhau bod y profiad ar gael i gynulleidfa ehangach fyth.”
Yn dilyn lansiad llwyddiannus yn Sioe Frenhinol Cymru, rhoddwyd lle amlwg i fodel rhyngweithiol Campws Llambed yng Ngŵyl Fwyd Llambed ychydig ddyddiau wedyn, gan groesawu rhagor o gyfranogwyr brwdfrydig. Bu mynychwyr yr ŵyl wrth eu boddau yn archwilio fersiwn rhithiol y campws, gyda phoblogrwydd y prosiect yn dal i godi. Ychwanega Laura Cait:
“Bu’r ymateb o Ŵyl Fwyd Llambed yr un mor galonogol. Bu’n bleser gennym weld brwdfrydedd a chwilfrydedd y mynychwyr wrth iddynt ymwneud â’n profiad rhithrealiti Minecraft. Atgyfnerthodd yr adborth cadarnhaol a dderbyniwyd gennym botensial y prosiect hwn i feithrin diddordeb dwfn mewn disgyblaethau ymysg dysgwyr o bob oed.”
Gweithiodd tîm INSPIRE yn ddiflino, mewn cydweithrediad â’r dyfeiswyr dawnus Brandon Roberts ac Ian Standen (sy’n rhan o Ysgol Bensaernïaeth PCYDDS), i ddod â’r weledigaeth hon yn fyw, ac mae eu hymdrechion wedi derbyn gwerthfawrogiad ysgubol oddi wrth fynychwyr y ddau ddigwyddiad. Cafodd profiad rhithrealiti Minecraft adborth eithriadol, ynghyd ag awydd i weld yr ymdrech hwn, gyda’i ffocws ar addysg, yn ehangu i ysgolion ar draws Cymru a Lloegr.
Gyda model rhyngweithiol Campws Llambed, mae PCYDDS yn bwriadu llywio llwybr newydd wrth hybu cynaliadwyedd, creadigrwydd a lledaenu gwybodaeth. Drwy blethu addysg â byd chwarae gemau fideo, mae’r prosiect hwn yn ceisio meithrin cenhedlaeth o fyfyrwyr sy’n frwd dros yr amgylchedd adeiledig a thu hwnt, gan hyrwyddo cenhadaeth INSPIRE i yrru newid cadarnhaol drwy ymchwil, arloesedd ac addysg.