Lansio Bws cymunedol rhwng Llanbed, Cellan a Llanfair

Clonc360 ar daith gyntaf y Bws gyda AS Elin Jones a’r Cynghorydd Eryl Evans.

gan Ifan Meredith

Yn ddiweddar, bu toriadau i fws cyhoeddus gan olygu nad yw’r bws bellach yn rhedeg ar Ddydd Sadwrn rhwng cymunedau Cellan a Llanfair a Llanbed sydd wedi peri problem i drigolion y cymunedau yma.

“ymateb cadarnhaol i sefyllfa anodd”

Pwysleisiodd Elin Jones bwysigrwydd cynllun o’r fath i sicrhau bod ein cymunedau yn parhau i gael eu cysylltu, ac yn galw am fwy o gefnogaeth i gynlluniau cymunedol fel hyn.

Yr ateb yw sefydlu bws wedi ei redeg gan wirfoddolwyr bob dydd Sadwrn. Caiff y bws ei ddarparu gan gwmni Dolen Teifi ac mae’r grŵp ymgyrch yn edrych i mewn i wahanol fyrdd o ariannu y cynllun peilot ar gyfer y dyfodol.

Yn ystod y cynllun peilot, mi fydd y bws yn rhedeg 4 gwaith y dydd gyda 9 sedd i deithwyr y bws. Cost y daith fydd 80c yn unig sydd yn darparu dihangfa i’r rheiny sydd yn methu gyrru.