Llanbedr Pont Steffan yn Dref Ddi-wifr!

Wi-Fi Cyhoeddus am ddim yn Llanbed

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
IMG_2850

Un o’r unedau sydd wedi ei leoli ar adeilad Amgueddfa Llanbed

IMG_2851

Yr uned sydd ar adeilad Amgueddfa Llanbed

IMG_4316

Bag siopa yn hyrwyddo’r Wi-Fi sydd ar gael am ddim yn rhai o fusnesau Llanbed

IMG_4317

Y cardiau gynhyrchwyd i hyrwyddo’r WiFi am ddim yn nifer o fusnesau Llanbed

Bu Cyngor Tref Llanbed ers rhai misoedd yn cyd-weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Ceredigion a Chynnal y Cardi i ddarparu Wi-Fi cyhoeddus am ddim yn y dref.

Daeth yr arian ar gyfer y prosiect trwy Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi buddsoddiad cyfalaf er mwyn adfywio nifer o drefi ledled Canolbarth Cymru. Cyngor Sir Ceredigion wnaeth gais am yr arian yn lleol a defnyddiwyd canran o’r arian ar gyfer darparu Wi-Fi cyhoeddus am ddim yn nhrefi Aberaeron, Aberteifi, Aberystwyth, Cei Newydd, Llanbedr Pont Steffan, Llandysul a Thregaron. Mae’r grant yn cynnig cefnogaeth ar gyfer ystod eang o brosiectau, o ddatblygiadau seilwaith gwyrdd i welliannau masnachol a phreswyl mewnol ac allanol i berchnogion busnes. Mae’r grant yn rhedeg am dair blynedd gan ddechrau yn Ebrill 2022 a bydd angen cwblhau’r prosiectau ariennir gan y grant erbyn Mawrth 2025.

Bu’r Cyngor Tref yn cydweithio gydag Antur Cymru Enterprise a’i hadran dechnoleg Telemat. Hwy sy’n gyfrifol am ddatblygu a chynnal y rhwydwaith o unedau Wi-Fi osodwyd mewn gwahanol leoliadau yn y dref.  Mae’r unedau yn darparu cysylltiad Wi-Fi band eang 4G ar draws ardal benodol sef rhan uchaf Heol y Bont, Stryd y Coleg ac wrth gwrs y Stryd Fawr.

Mae’r unedau’n darparu mynediad Wi-Fi di-dor i ddefnyddwyr ar eu dyfeisiau megis ffôn clyfar gan ddefnyddio un drefn mewngofnodi.

I fewngofnodi i’r Wi-Fi cyhoeddus am ddim, ewch i ‘Gosodiadau’ ar eich dyfais a dewiswch yr opsiwn ‘Wi-Fi’. Gall bydd sawl dewis rhwydwaith yn ymddangos ar eich dyfais – dewiswch yr opsiwn ‘WiFi Tref Am Ddim Free Town WiFi’. O’i ddewis, dylech gysylltu’n syth gyda’r we trwy Wi-Fi cyhoeddus am ddim tref Llanbed.

System rhwydwaith heb ei ddiogelu (‘unsecured network’) a gynigir a bydd eich defnydd o’r we trwy Wi-Fi cyhoeddus am ddim tref Llanbed yn cael ei fonitro. Bydd rhai cyfyngiadau a bydd y system yn casglu gwybodaeth am eich defnydd. Bydd y wybodaeth a gesglir o ddefnydd i’r Cyngor Tref, y busnesau a’r gwasanaethau yn y dref i gael gwybod beth sydd o ddiddordeb i drigolion Llanbed ac i ymwelwyr. Bydd hefyd o gymorth i ddatblygu a gwella’r gwasanaeth.

Mae’r system Wi-Fi cyhoeddus am ddim tref Llanbed bellach yn fyw ac mae nifer o drigolion ac ymwelwyr yn barod yn ei ddefnyddio. Bydd y Cyngor Tref yn derbyn hyfforddiant maes o law er mwyn deall sut i ddadansoddi’r wybodaeth a gesglir a’i ddefnyddio i wella’r ddarpariaeth o fusnesau a gwasanaethau yn Llanbed.

Y mae’r Cyngor Tref yn ddiolchgar iawn i’r busnesau hynny sydd wedi derbyn uned a’i leoli ar adeilad y busnes a chefnogi’r prosiect hwn. Bydd y Cyngor Tref yn ystyried yn y dyfodol ychwanegu mwy unedau yn y dref i gynyddu’r ddarpariaeth sydd ar gael.

Am ragor o wybodaeth am Wi-Fi cyhoeddus am ddim tref Llanbed, cysylltwch â Meryl Thomas, Clerc Cyngor Tref Llanbed – clerc@lampeter-tc.gov.uk