Llwyddiant yn parhau ym Moduan

Dathlu’r llwyddiant

Nia Wyn Davies
gan Nia Wyn Davies
6c1d6237-a2fd-4237-ad1e-cb886d917169

Alwena Mair Owen

IMG_5285

Ela ac Olivia

IMG_5288

Sara Elan Jones

IMG_5300

Amy Morgan

02c996b8-0fa9-48a2-95a1-8afa3a24d65f

Sara Elan Jones

Yn dilyn canlyniadau‘r penwythnos, mae’r llwyddiant i bobl ardal Llambed yn parhau yn niwrnodau 3 a 4 yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Llŷn ac Eifionydd. Gyda’r haul yn gwenu yno dros y dyddiau diwethaf hefyd. Llongyfarchiadau mawr i’r canlynol ar eu llwyddiant:

Dydd Llun:

  • Deuawd Cerdd Dant o dan 21 oed – Ela Mablen Griffiths-Jones, Cwrtnewydd ac Olivia Davies, Aberaeron – 2il
  • Y Rhuban Glas Ieuenctid: Gwobr Goffa Gwyneth Morus Jones: Llefaru Unigol 16 ac o dan 21 oed – Sara Elan Jones, Cwmann 1af.
  • Dawns greadigol / gyfoes i grŵp dros 4 mewn nifer – Ysgol Ddawns Sally Saunders, Llambed 2il
  • Cystadleuaeth gyfeilio – Alwena Mair Owen, Llanllwni 3ydd

Dydd Mawrth:

  • Dawns Greadigol / Gyfoes Unigol – Amy Morgan, Llambed 1af
  • Unawd telyn – Alwena Mair Owen, Llanllwni 1af

Llongyfarchiadau i Miss Meleri Morgan, athrawes yn Ysgol Bro Pedr ar ennill cystadleuaeth Llefaru Unigol o’r Ysgrythur 16 oed a throsodd ddydd Sul.