Llysgenhadon CFfI Sir Gâr 2023-2024

Tri o Glwb Llanllwni ar dîm y Llysgenhadon eleni!

Sioned Howells
gan Sioned Howells

Cafwyd noson i’w chofio yn Nawns Dewis Llysgenhadon C.Ff.I. Sir Gâr ar nos Wener y Groglith, gyda thri unigolyn o Glwb Llanllwni yn cael eu dewis yn llysgenhadon i’r mudiad eleni!

Llysgenhades C.Ff.I. Sir Gâr am eleni yw Betsan Jones. Mae Betsan yn gyn-gadeirydd a thrysorydd i’r clwb, a hi yw ysgrifenyddes y Wasg am eleni. Cafodd Betsan ei dewis yn ddirprwy Llysgenhades y mudiad llynedd, ac mae hi’n aelod gweithgar tu hwnt ar lefel clwb ac yn sirol. Mae Betsan yn serennu yn aml mewn meysydd amrywiol, boed yn siarad cyhoeddus, gwaith crefft neu ar lwyfan yr Eisteddfod. Enillodd Betsan y cwpan am yr unigolyn gorau yng nghystadleuaeth siarad gyhoeddus C.Ff.I. Cymru yn 2021. Yn ogystal, enillodd ar lefel genedlaethol yn creu ffrog ac yn rhan o’r tîm enillodd y ciwb ar lefel cenedlaethol llynedd. Nyrs gymunedol yw Betsan o ddydd i ddydd yn gweithio i Fwrdd Iechyd Hywel Dda.

Dafydd Evans yw Llysgennad C.Ff.I. Sir Gâr am eleni. Hoff gystadlaethau Dafydd yw’r arwerthu, gyrru tractor neu Stori a Sain. Bydd Dafydd yn mynd ymlaen i gynrychioli’r Sir yn niwrnod Gwaith Maes Cymru ymhen diwedd y mis yn y gystadleuaeth Sgiliau Fferm, yn dilyn ennill y gystadleuaeth gyrru tractor ar lefel sirol. Mae Dafydd yn gweithio i gwmni Dunbia yn Llanybydder.

Cafodd Sioned Bowen hefyd ei dewis yn ddirprwy Llysgenhades y Sir. Cyfieithydd i gwmni CBAC yw Sioned yn ei gwaith, a hi yw trysorydd presennol y clwb. Arbeniga Sioned mewn maes ysgrifennu a llenydda, wrth iddi ennill coron Eisteddfod y Sir ddwywaith yn 2018 a 2022. Mae Sioned hefyd yn weithgar iawn o fewn ei chymuned leol, lle’i gwelir ar nifer o bwyllgorau’r ardal. Mae Sioned hefyd yn hoff iawn o gystadlu ym mhob math o gystadlaethau, ac yn bennaf mae hi’n mwynhau ochr gymdeithasol y mudiad.

Dymunwn bob llwyddiant i’r tri yn ystod eu blwyddyn ar dîm y Llysgenhadon. Ymhlith y Llysgenhadon eraill oedd Hannah Richards a Fiona Phillips o G.Ff.I. Penybont, a Menna Isaac o G.Ff.I. Llanddarog – llongyfarchiadau mawr i chi gyd, ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn Rali’r Sir ar y 13eg o Fai !