Merch o’r Drindod Dewi Sant yn gobeithio dylanwadu ar eraill â’i hangerdd dros gynaliadwyedd

Mae angerdd Debby Mercer dros gynaliadwyedd o amgylch y campws yn heintus.

gan Lowri Thomas

Bu Debby bob amser yn frwdfrydig dros gynaliadwyedd. Meddai:

“Mae fy angerdd i’n deillio o gyfiawnder hinsawdd. Mae’r materion rydyn ni’n eu hwynebu ynghylch y newid yn yr hinsawdd a dinistr amgylcheddol yn gymhleth iawn ac mae hi mor anodd deall y broblem yn ei chyfanrwydd ac mae hyn yn arwain at broblemau difrifol o ran sut rydyn ni fel cymdeithas yn mynd i’r afael â’r materion hyn. Dylai cynaliadwyedd fod o fudd i bawb YN FYD-EANG, nid dim ond y dethol rai.

“Mae fy marn i ar gynaliadwyedd wedi newid ers symud i Gymru a gweithio yn y sector amaethyddol. Ar hyn o bryd, mae cynaliadwyedd i mi yn rhwym wrth wytnwch. Nid yw’n golygu mynd yn ôl i amser cyn plastigau untro, echdynnu tanwydd ffosil, a dinistr amgylcheddol, ond symud ymlaen i fyd newydd. Allwn ni ddim rhoi glo yn ôl yn y ddaear, ond gallwn ni drawsnewid pyllau glo brig yn gynefinoedd newydd ar gyfer bywyd gwyllt. Ni allwn ni fynd yn ôl i ffermio ymgynhaliol, ond gallwn ni symud tuag at ffermio sy’n ystyriol o natur er mwyn creu gwytnwch amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ar gyfer y newidiadau sydd o’n blaenau ni.”

Symudodd Debby i Lanbedr Pont Steffan ar ôl iddi brynu tyddyn, a dewisodd astudio yn Y Drindod Dewi Sant oherwydd ei hymrwymiadau i’r tir ac anifeiliaid. Penderfynodd astudio’r Celfyddydau Breiniol gan ei bod hi’n gwau ac yn nyddu ers dros 10 mlynedd a bu ganddi ddiddordeb erioed mewn archaeoleg tecstilau.

Yn ystod ei hamser yn y Brifysgol, daeth Debby yn un o interniaid INSPIRE lle cymerodd agwedd unigryw at hyrwyddo cynaliadwyedd a gwaith menter bwyd a gwytnwch y Brifysgol, Tir Glas, trwy lens gwlân gan ei fod yn rhywbeth sy’n amlwg yn y gymuned a’r economi leol.

“Fe wnes i fwynhau’n fawr iawn fy amser yn Interniad INSPIRE ar gyfer Tir Glas, rhoddodd lawer o gyfleoedd i mi gymryd rhan mewn sgyrsiau am rôl gwlân wrth greu dyfodol cynaliadwy gyda myfyrwyr, staff ac aelodau’r gymuned leol. Y prif beth ddysges i o‘m hinterniaeth i oedd sut i weithio yn rhan o dîm mwy o faint.”

Mae’r Brifysgol wedi dyfnhau angerdd Debbie dros gynaliadwyedd. Ychwanega:

“Cyn dod i’r Drindod Dewi Sant, roeddwn i wedi byw oddi ar y grid ers dros 10 mlynedd ac o’m cwmpas i roedd pobl oedd yn frwdfrydig dros yr amgylchedd ac wedi ymrwymo i’r Mudiad Gwyrdd. A minnau wedi fy nhrwytho yn y byd hwnnw, roeddwn i’n credu ein bod ni ar gyrion cymdeithas yn brwydro yn erbyn y llu! Ond roedd yr angerdd weles i ar gampws Llambed yn hollol ysbrydoledig.

“Mae myfyrwyr a staff fel ei gilydd yn barod i gymryd rhan mewn sgyrsiau anodd a gwneud newidiadau i wneud Y Drindod Dewi Sant yn brifysgol gynaliadwy. Roedd hi’n wych gweld y staff tir a’r ystadau yn cael cydnabyddiaeth haeddiannol ar gampws Llambed fis diwethaf gyda chyflwyno gwobr y Faner Werdd. Mae dod i’r brifysgol wedi dangos i mi fod cynaliadwyedd a’r argyfwng hinsawdd wedi dod yn faterion allweddol i bawb – nid “ni yn eu herbyn nhw” yw hi bellach ond pob un ohonom yn gweithio gyda’n gilydd ar gyfer dyfodol cynaliadwy.”

Yn ddiweddar bu Debby yn curadu arddangosfa oedd yn edrych ar ‘Werth Gwlân’ a gynlluniwyd o amgylch ei gwaith israddedig. Mae’n edrych ar y rôl sylweddol y mae wedi’i chwarae ar wahanol adegau mewn hanes a sut y gall helpu i greu dyfodol cynaliadwy. Ychwanega:

“Mae gennym ni lawer o ffermydd ar Ynysoedd Prydain sy’n cynhyrchu llawer iawn o wlân sy’n cael ei losgi neu ei gladdu ar hyn o bryd am nad oes ganddo lawer o werth ariannol. Ond mae dillad gwlân yn para am amser hir ac mae modd eu trwsio, mae compost gwlân yn gyfoethog o ran nitrogen a gellir ei ddefnyddio yn lle compost mawn a gall cynhyrchion eraill megis inswleiddio gwlân pur gael effaith enfawr ar werth cynaliadwyedd adeilad newydd neu yn ffordd werdd o ôl-osod hen adeilad.”

Bydd yr arddangosfa ar hyd yr wythnos o 16 Hydref ymlaen, ar Gampws IQ Y Drindod Dewi Sant yn SA1 Glannau Abertawe yn rhan o’r Wythnos Gynaliadwyedd, a bydd Debby yn cyflwyno sgwrs am rôl gwlân mewn cynaliadwyedd a gweithdy ffeltio nodwyddau sy’n addas ar gyfer pob oed ddydd Iau 19 Hydref am 4p.m.

Mae Debby yn gobeithio y bydd hi’n gallu ysgogi cyd-fyfyrwyr a staff i feddwl yn fwy am gynaliadwyedd.

“Mae cynaliadwyedd yn ein dwylo ni. Mae gennym ni fel pobl gymaint o bŵer trwy ein dewisiadau prynu. Mae bod yn fwy cynaliadwy nid yn unig yn golygu plannu coed a thyfu eich bwyd eich hun, ond gwneud dewisiadau ar y busnesau rydyn ni’n eu cefnogi a sut rydyn ni’n eu cefnogi. Gall bod yn fwy cynaliadwy fod mor syml ag eistedd yn 1822 ar gyfer eich coffi yn hytrach na mynd â chwpan untro gyda chi.”

Meddai Anna Jones, Pennaeth Ymgysylltu Dinesig Y Drindod Dewi Sant:

“Mae’n bleser gweld sut mae ein myfyrwyr yn symud ymlaen gyda’u teithiau bywyd wrth gofleidio a chymhwyso eu dysgu o’u hamser gyda ni yma yn Y Drindod Dewi Sant. Yn un o gyn-Interniaid INSPIRE o Gampws Llambed, mae’n wirioneddol wych gweld bod Debbie wedi cael cyfle i gynnal ei harddangosfa ei hun ar bwnc mor werthfawr i gefnogi Wythnos Gynaliadwyedd. Pob llwyddiant iddi ar gyfer y dyfodol.”