Lluniau gan Aneurin James
Daeth dros gant i Lanbed ar fore Sul y Pasg eleni eto i redeg ras ffordd 10 milltir Teifi ac mewn tywydd digon ffafriol gosodwyd record newydd am y cwrs gan Lauren Cooper o glwb Parc Bryn Bach. Hi oedd y fenyw gyntaf i orffen a thrwy ddod yn 10fed yn y ras gyfan mewn amser o 1 awr a 39.6 eiliad aeth y wobr gyntaf yn nosbarth agored y menywod a gwobr arbennig o £50 iddi hi – tipyn o gamp yn y ras flynyddol hon a sefydlwyd yn ôl yn y nawdegau.
Llwyddodd wyth i orffen dan awr eleni a’r cyflymaf ohonynt oedd Owain Schiavone o glwb Aberystwyth (56 munud 33 eiliad) rhyw 25 eiliad o flaen Siôn Lewis o glwb Meistri Cymru. Yr oedd un o aelodau clwb Sarn Helen yn eu plith – Steffan Walker (58:25) unwaith eto’n arwain dros y clwb gan ddod yn 5ed yn y ras ac ail yn nosbarth agored y dynion (hynny ddim ond wythnos wedi iddo ddod yn 3ydd ym marathon Llanelli mewn 2 awr 36 munud 57 eiliad.)
Yn wir yr oedd 35 o aelodau’r clwb ymhlith y 112 a redodd ac yn ogystal â’r wobr tîm aeth nifer o’r gwobrau i redwyr y clwb – Michael Davies (63:38) a Glyn Price (65:45) yn ail a 3ydd o’r dynion dros 50, Sara Davies (76:22) yn ail yn nosbarth agored y menywod, Eleri Rivers (73:45 – record bersonol) yn ail o’r menywod dros 45, Steph Davies (75:37) yn 3ydd yn nosbarth y menywod dros 35, Delyth Crimes (78:04) yn ail yn nosbarth y menywod dros 55 a Richard Marks (75:45) yn 3ydd o’r dynion dros 60, dosbarth a enillwyd gan y milfeddyg o Swyddffynnon, Ifan Lloyd, yn 9fed yn y ras mewn 60 munud a 26 eiliad.