Ras 10 milltir Teifi

Lauren ac Owain yn serennu yn Llanbed

gan Richard Marks
Lauren Cooper ac Ifan Lloyd
Owain Schiavone yn arwain
Dylan Davies yn arwain Llŷr ab Einon, Meic Davies a Simon Hall
Eleri Rivers
Steffan Walker ysgwydd am ysgwydd a James Cowan
Steph Davies
Jo Summers
Alex Price ac Arwyn Davies yn dilyn

Lluniau gan Aneurin James

Daeth dros gant i Lanbed ar fore Sul y Pasg eleni eto i redeg ras ffordd 10 milltir Teifi ac mewn tywydd digon ffafriol gosodwyd record newydd am y cwrs gan Lauren Cooper o glwb Parc Bryn Bach. Hi oedd y fenyw gyntaf i orffen a thrwy ddod yn 10fed yn y ras gyfan mewn amser o 1 awr a 39.6 eiliad aeth y wobr gyntaf yn nosbarth agored y menywod a gwobr arbennig o £50 iddi hi – tipyn o gamp yn y ras flynyddol hon a sefydlwyd yn ôl yn y nawdegau.

Llwyddodd wyth i orffen dan awr eleni a’r cyflymaf ohonynt oedd Owain Schiavone o glwb Aberystwyth (56 munud 33 eiliad) rhyw 25 eiliad o flaen Siôn Lewis o glwb Meistri Cymru. Yr oedd un o aelodau clwb Sarn Helen yn eu plith – Steffan Walker (58:25) unwaith eto’n arwain dros y clwb gan ddod  yn 5ed yn y ras ac ail yn nosbarth agored y dynion (hynny ddim ond wythnos wedi iddo ddod yn 3ydd ym marathon Llanelli mewn 2 awr 36 munud 57 eiliad.)

Yn wir yr oedd 35 o aelodau’r clwb ymhlith y 112 a redodd ac yn ogystal â’r wobr tîm aeth nifer o’r gwobrau i redwyr y clwb – Michael Davies (63:38) a Glyn Price (65:45) yn ail a 3ydd o’r dynion dros 50, Sara Davies (76:22) yn ail yn nosbarth agored y menywod, Eleri Rivers (73:45 – record bersonol) yn ail o’r menywod dros 45, Steph Davies (75:37) yn 3ydd yn nosbarth y menywod dros 35, Delyth Crimes (78:04) yn ail yn nosbarth y menywod dros 55 a Richard Marks (75:45) yn 3ydd o’r dynion dros 60, dosbarth a enillwyd gan y milfeddyg o Swyddffynnon, Ifan Lloyd, yn 9fed yn y ras mewn 60 munud a 26 eiliad.