Miloedd yn derbyn eu canlyniadau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol

Llongyfarch myfyrwyr Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol ar ddiwrnod eu canlyniadau.

gan Ifan Meredith

Eleni, rhybuddiwyd byddai canlyniadau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol yn is na bu llynedd ac yn nes at ganlyniadau 2019, canlyniadau cyn Covid.
Llwyddodd 97.5% o’r ymgeiswyr a safodd arholiadau Lefel-A yng Nghymru dderbyn graddau A* i E, wrth i 34% ennill graddau A* – A.

Mae ffigurau cymharol rhwng rhai cymedrol Ceredigion a Chymru i’w gweld isod.

Gradd A* – A

Ceredigion: 37.5%

Cymru: 34%

Gradd A* – E

Ceredigion: 99.1%

Cymru: 97.5%

Ar Lefel-A, mae Mathemateg yn parhau i fod y pwnc mwyaf poblogaidd fodd bynnag, mae yna gwymp cenedlaethol o ymgeiswyr wedi bod ym mhob un o’r egwyddorion Gwyddoniaeth (-1,054) ac yn Hanes (-390) yn ogystal ag Astudiaethau Crefyddol (-234).

Llwyddodd 90.9% o’r ymgeiswyr a safodd arholiadau Lefel-AS yng Nghymru dderbyn graddau A i E, wrth i 25.5% ennill graddau A.

Mathemateg yw’r pwnc mwyaf poblogaidd hefyd yn Uwch Gyfrannol a gwelwyd cynnydd mewn ymgeiswyr yn rhan fwyaf o bynciau gan gynnwys yn Bioleg (+276), Cemeg (+352), Llenyddiaeth Saesneg (+258) a Ffiseg (+412).

“Dymuno’r gorau i’n holl ddisgyblion ar gyfer eu dyfodol”

Medd Elen James, Prif Swyddog Addysg Ceredigion:

“Llongyfarchiadau i holl ddisgyblion Ceredigion ar ganlyniadau Safon Uwch, BTEC ac UG ardderchog eleni eto. Rydym yn hynod falch o’u hymdrechion, mae eu gwaith caled, eu dycnwch a’u huchelgais yn cael eu hadlewyrchu mewn canlyniadau rhagorol a haeddiannol iawn.”

Aiff ymlaen i ddatgan ei diolch i’r staff am eu hymrwymiad ac i deuluoedd/ gwarchodwyr “am eu cefnogaeth”.

Mewn ymateb i’r canlyniadau eleni, medd Jane Wyn, Pennaeth Ysgol Bro Pedr:

“Mae llwyddiant ysgubol ein disgyblion yn adlewyrchu eu gwaith caled a chefnogaeth ac anogaeth staff yr ysgol a theuluoedd y disgyblion. Dymunwn bob llwyddiant i’r disgyblion wrth iddynt ddechrau ar y bennod nesaf, boed hynny yn mynd i Brifysgol, yn dechrau cwrs coleg neu’n mentro i fyd gwaith. Rydym yn falch iawn o gyflawniad pob disgybl a, fel ysgol, rydym yn dymuno pob hapusrwydd iddynt yn y dyfodol”.