Mae Cara Elli Jones yn hyfforddi i fod yn Nyrs Milfeddygol ac mae’n dwlu ar gŵn defaid. Mae Gwil y ci yn rhan o’r teulu ganddi.
Dyma flas i chi o’u hymatebion i gwestiynau ‘Cadwyn y Cyfrinachau’ yn rhifyn Rhagfyr Papur Bro Clonc.
Unrhyw hoff atgof plentyndod.
Mynd gyda tadcu am ‘sbin’ yn y fan a byth yn gwbod ble bydden ni’n beni achos bod e’n gofyn ar bob junction “chwith neu dde Cara?”Beth oedd y peth ofnadwy wnest ti i gael row gan rywun?
Cael row gyda mam am ddal fy mrawd Rhun dros banister y stár a bygwth gollwng fynd.Sut mae’r Coronafeirws wedi effeithio dy fywyd di?
Gorfod gwneud lefel A gartref a ffaelu dysgu dreifo nes bron yn 18.Beth oedd y celwydd diwethaf i ti ddweud?
Dweud wrth dad wna i olchi’r llestri pan roedd e yn hyfforddi rygbi.Pa dri pheth yr hoffet ti wneud cyn dy fod yn ddeugain?
Gallu cneifo o leiaf 50 o ddefaid mewn diwrnod, paso i fod yn nyrs milfeddygol, prynu tŷ.Unrhyw arferion gwael?
Gwneud cwlwm yn fy ngwallt.
Unrhyw dalentau cudd?
Troi fy nhroed rownd i wynebu go chwith.
Beth am brynu copi cyfredol Clonc er mwyn darllen rhagor amdani? Dyma restr o’r siopau lleol sy’n gwerthu Clonc, neu tanysgrifiwch i gael copïau ar-lein.