Cau’r Nags Head tan ar ôl y gêm rygbi heddiw

Lee Wells yn annog y gymuned i gyd i gefnogi Tîm Rygbi Llanbed

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae chwaraewyr Tîm Rygbi Llanbed yn chwarae gêm dyngedfennol heddiw yn eu brwydr i gael dyrchafiad.

Wedi iddynt ennill oddi cartref yn erbyn Sanclêr yr wythnos ddiwethaf, daw Tîm Sanclêr i Gaeau Ffordd y Gogledd, Llanbed heddiw lle bydd y chwarae yr un mor ffyrnig.

Cyhoeddodd Lee Wells o’r Nags Head y bydd y dafarn ar gau tan ar ôl y gêm.  Dywedodd Lee,

“Mae’n bwysig bod y gymuned gyfan yn dod at ei gilydd i gefnogi’r bois heddiw, felly fyddwn ni ddim yn agor y Nags tan ar ôl pedwar o’r gloch.”

Ychwanegodd Lee,

“Er taw bachan pêl-droed ydw i, mae fy merch wedi dechrau chwarae rygbi gyda un o dimoedd y plant yn y clwb erbyn hyn.  Bu’r bois rygbi yn gefnogol iawn i’r Nags Head drwy gyfnod anodd y Covid, felly teimlaf yn gryf y dylwn ddangos ein cefnogaeth heddiw”

Bydd y gic gyntaf am 2.30 o’r gloch prynhawn ma.  Mae’n ddiwrnod braf, felly ewch i weld y gêm fawr yng Nghlwb Rygbi Llanbed a bloeddio dros y tîm lleol.