NEWYDD DORRI : Damwain ar yr heol rhwng Cwmann a Phumsaint yn cau’r ffordd

Mae damwain ar ffordd yr A482 yn golygu bod y ffordd ar gau yn rhannol.

gan Ifan Meredith
E520C67A-4AD1-4F4B-9879Megan Dafydd
CF604C34-E5AF-4A47-8868Megan Dafydd

Mae’r gwrthdrawiad wedi digwydd ar heol yr A482 rhwng Cwmann a Phumsaint toc wedi 14:00 ar brynhawn Sul, yr 8fed o Hydref ac wedi cau’r ffordd yn rhannol.

Mae’n ymddangos mai gwrthdrawiad rhwng car a fan sydd ynghlwm â’r digwyddiad ac nid oes yna ddiweddariadau pellach i’w hadrodd hyd yma.