NEWYDD DORRI : Heol y Gogledd, A482 ar gau

Cau darn o’r A482 yn ardal Llanbed.

gan Ifan Meredith

Adroddiadau o gar wedi torri i lawr ar Heol y Gogledd wrth fynd tuag at Aberaeron sydd yn golygu bod yr heol ar gau am gyfnod gyda gwasanaethau Heddlu i weld yn bresennol. 

Mae’r Heddlu yn galw ar bobl i osgoi’r ardal ac i ‘gymryd llwybrau amgen’.

Mewn datganiad medd Heddu Dyfed Powys;

“Mae’r A482 rhwng Llambed a Pont Creuddyn ar gau ar hyn o bryd oherwydd cerbyd sydd wedi torri lawr. Os yn bosibl, osgowch yr ardal a dewch o hyd i lwybr amgen.”