Noson fawr Mike Doyle a’i fand yn Llanbed

Emyr ac Eirian Jones yn codi arian rhyfeddol a dod ag adloniant gyfoes i’r dref

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Emyr ac Eirian yn gwylio Mike Doyle a’i fand.

a53d62c1-f875-402a-b274

Mike Doyle.

a74348c0-705f-49fe-b98e

Hayley Gallivan

3616284b-3607-4f1a-a4de

Emyr ac Eirian gyda Mike Doyle a’i ewythr Kevin Doyle.

195511b4-d964-4931-a786

Mared, Emyr a Sara.

IMG_0111

Mike Doyle a’i fand.

IMG_0110

Hayley Gallivan

IMG_0112

Mike Doyle.

IMG_0114

Mike Doyle yn perfformio.

bb5856d2-10ee-4977-bcf0

Mike Doyle.

2de02dd5-0e3b-4be0-9c0c

Emyr Jones ac Andrew Morgan.

a19c6b37-1d1a-4306-8818

Mike Doyle.

Emyr Jones.

9f0db5e8-3846-4974-a676

Wendy, Mike ac Eirian.

36840cb6-b6b9-43db-b780

Emyr, Mike ac Eirian.

Cynhaliwyd noson lwyddiannus iawn yng nghwmni’r diddanwr Mike Doyle yn Llanbed ar y 18fed o Dachwedd.  Emyr ac Eirian Jones, y gof a’r teulu o Gwmann oedd yn trefnu’r noson er mwyn codi arian tuag at Ambiwlans Awyr Cymru ac Uned Dyddiol Chemotherapy Bronglais.

Agorwyd y noson gyda chantores y West End, Hayley Gallivan o Abertawe a’i llais hudolus.  Arweiniodd hyn i uchafbwynt y noson sef Mike Doyle a’i fand.  Un â’i wreiddiau yn Llanbed yw Mike a sefydlwyd y cysylltiad agos hwn ag Emyr ac Eirian y gof ar wyliau mordaith lle roedd ef yn diddanu.

Cafwyd noson i’w chofio gan Mike Doyle a’i fand.  Diddanodd y dyrfa o 148 o bobl gyda straeon difyr ag apêl leol a chyfoes gyda phawb yn rowlio chwerthin.  Cafwyd caneuon bywiog ganddo gyda nifer dda yn mwynhau dawnsio.

Tynnwyd y raffl a bu Andrew Morgan yn gwerthu eitemau.  Codwyd tua £11,000 hyd yn hyn tuag at y ddau achos da.  Hoffai Emyr ac Eirian ddiolch i bawb a gyfrannodd tuag at lwyddiant y noson gan gynnwys Prifysgol y Drindod Dewi Sant am leoliad bendigedig ac i’r staff a fu’n gweini, pawb a gyfrannodd eitemau i’r raffl a’r arwerthiant ac i bawb a fynychodd.

Mae ein diolch ni wrthgwrs i Emyr ac Eirian a’r teulu am drefnu fath noson yn llawn adloniant ar ein stepen drws, gan ddenu artistiaid proffesiynol o Gymru i berfformio yn Llanbed.  Drwy wneud hyn oll, mae dau achos da wedi elwa’n fawr iawn.