On’d oedden nhw’n ddyddiau da?

Madge Jones sy’n rhannu ei hatgofion am Lanybydder gyda ni’r mis hwn.

gan Gwyneth Davies
Madge-ai-mam

Madge a’i mam

Wel, mae gen i dipyn o atgofion am Lanybydder a hoffwn fynd nôl â chi i adeg fy mhlentyndod. Bues i’n byw am gyfnod yn ‘Gerallt’, Llanybydder a dyna, flynyddoedd yn ddiweddarach, oedd safle garej Dai Rees. Dai adeiladodd y siediau yn y cefn. Do’n nhw ddim yno yn ystod fy mhlentyndod i. Gardd oedd yno pan o’n i’n fach a dw i’n cofio tad-cu wedyn yn gwneud giât mas o ffrâm hen wely bras. Pan o’n i’n fach, roedd ‘na ‘Sipsiwn’ a phobl o dras Indiaidd yn galw heibio i werthu pethau yn yr ardal hon. Yr adeg honno, byddai ambell grwydryn yn galw heibio hefyd ac ar ffermydd ro’n nhw’n begian am fwyd a chysgu mewn siediau gwair. O’r bobl oedd yn galw gyda ni, y dynion o dras Indiaidd yw’r rhai a adawodd yr argraff fwyaf arna i. Gallaf eu gweld nhw nawr yn cario ‘suitcase’ a oedd yn llawn dillad i’w gwerthu. Ni fydden nhw byth yn cael eu troi bant gyda mam-gu. Roedd hi bob amser yn prynu rhywbeth gyda nhw ac roedd hi’n methu’n lân â deall pam o’n i’n eu hofni cymaint. Fel plentyn, ro’n i’n casáu eu gweld nhw’n dod.

Dw i’n cofio un ymwelydd yn arbennig. Ar ôl i mam-gu agor y drws iddo, fuodd e ddim yn hir cyn dangos y nwyddau a oedd yn ei ges iddi. Ar y top, roedd sgarff bert iawn ac wrth syllu ar honno, fe droiodd mam-gu ato a dweud heb flewyn ar dafod, ‘she’s afraid of you!’ gan bwyntio ata i. Edrychodd y dyn yn syn gan gydio yn fy moch i a dweud ‘ Hello little girl!’ Dro arall, ro’n i’n chwarae tu fas ac yn pallu dod mewn o gwbl ac er mwyn codi ofn arna i, fe ddywedodd fy modryb,‘ Mae dau ‘Indian’ ar y ffordd ac fe fyddan nhw’n pasio fan hyn chwap. Dw i newydd eu gweld nhw ar bwys tafarn y Gwrdy.’ Anwybyddu’r geiriau’r llwyr wnes i gan gario ymlaen i chwarae. Ond y peth nesa, pwy ddaeth lawr y rhiw ond dau o dras Indiaidd gyda ‘turbans’ am eu pennau. Mewn â fi’n go glou wedyn, credwch chi fi!

Fel y dywedais, nid yn unig dynion o dras Indiaidd oedd yn galw gyda ni, ond Sipsiwn hefyd. Dw i’n cofio gweld carafán Sipsi yn pasio Gerallt a honno’n cael ei thynnu gan geffyl, Dro arall wedyn, dw i’n cofio cert fflat yn pasio a’r plant a’r ci yn eistedd ar y gert. Cafodd mam ei magu yng nghwmni’r Sipsiwn gan iddyn nhw fyw am gyfnod mewn carafán yn y chwarel yn Gwrdy Bach ac roedd cartref mam gerllaw. Ces i’r enw Marjorie ar ôl yr hen sipsi a oedd yn byw yno. Ro’n i’n methu credu’r peth pan ddywedodd mam hyn wrtha i ond mam-gu gafodd y bai gan mai hi oedd am fy ngalw i’n Marjorie, yn ôl mam.

Er bod crwydriaid i’w gweld o gwmpas Llanybydder, does gen i ddim cof am yr un ohonyn nhw’n galw gyda ni. Arferai un basio Gerallt ar fore Sul gyda chap wedi ei wneud o groen cwningen  ar ei ben. Roedd y croen bron â gorchuddio ei wyneb i gyd ac roedd ei ofn e arna i. Bydde fe hefyd yn cario sosbannau gydag e ar ei feic ar gyfer coginio. Yn rhyfedd o beth, dynion oedden nhw bob tro. Dynion oedd y bobl o dras Indiaidd hefyd ond menywod wedyn oedd pob Sipsi a oedd yn galw.

Ar ôl yr ail ryfel byd, mae gen i gof amdana i’n mynd i siopa i waelod y pentref gyda mam-gu a hithau’n dweud, ‘os bydd digon o ‘ration coupons’ gyda fi ar ôl, fe gei di sweets.’ Mae hynny wedi aros yn y cof achos ro’n i’n dwlu cael sweets gan mam-gu. Mae’n anodd credu cymaint mae’r pentref wedi newid ar hyd y blynyddoedd. Ar un adeg, roedd pob math o bethau yn Llanybydder. Ro’n i’n arfer mynd i’r pictiwrs ar bwys y mart gyda fy modryb. Sied fach ar bwys y pictiwrs wedyn a beics yn cael eu gwerthu yno. Fe adeiladodd Hughes y Crydd dŷ gyferbyn â’r Swyddfa Bost ac yno roedd e’n gwerthu ac atgyweirio esgidiau. Cyn hynny, dw i’n cofio siop fach gydag e ar ochr Telynfa, a oedd yr ochr chwith wrth fynd i fyny’r rhiw. Atgyweirio’r esgidiau yn unig oedd e’n gwneud fan ‘na a doedd yr adeilad ddim yn llawer mwy na ‘porch’ bach. Fe ges i sawl sgwrs gydag e yno! Ro’n i wrth fy modd yn clywed hanes yr hen ddyddiau gydag e. Ond, nid Hughes y Crydd oedd â’r unig siop esgidiau yn y pentref bryd hynny wrth gwrs. Drws nesa i siop Dolgwm ar waelod y pentre (sydd bellach yn adeilad gwag), roedd siop fach gan Owain y Crydd a’i wraig Eileen. Symudon nhw wedyn lan i ‘Gwylfa’ (nepell o dafarn Tan-y-graig) gan agor siop yno. Siop Eileen oedd pawb yn ei galw ar y pryd.

I ddarllen mwy o atgofion Madge, mynnwch gopi cyfredol o Bapur Bro Clonc