Gwireddodd Owain Schiavone (Clwb Athletau Aberystwyth) uchelgais wrth iddo ennill Ras Sarn Helen rhif 42 yn Llanbed ar y 14eg o Fai mewn 1 awr 51 munud a 43 eiliad.
Cwrs aml-dirwedd 16.5 milltir gyda dros 2500 troedfedd o ddringo yw cwrs y ras hon ac er bod llawer i ras hwy a mwy mynyddig ar gael y mae hon gyda’r caletaf ym marn llawer.
Yr oedd y tywydd o leiaf yn garedig i’r 31 o redwyr a’i rhedodd eleni a’r ddau redwr arall i orffen dan ddwy awr oedd Jon Bowie (1:55:29) o glwb Yr Amwythig a Steffan Walker (1:58:17) o glwb Sarn Helen. Steffan oedd y cyntaf yn y dosbarth agored (dan 40) a’r ail yn y dosbarth hwnnw oedd Samuel Harrison Paul (2:03:45) un o aelodau ifanc newydd y clwb sy’n gwneud tipyn o argraff eleni.
Enillydd ras y menywod oedd Kitty Robinson (2:8:52) o glwb NBLRs a’r fenyw nesaf i orffen, ac enillydd y dosbarth dros 55, oedd Delyth Crimes (2:41:01) o glwb Sarn Helen gyda’i chyd-aelod Pamela Carter (3:03:36) hefyd yn llwyddo i ymdopi’n llwyddiannus a’r her.
Yr oedd dau aelod arall o’r clwb ymhlith y gwobrau yn nosbarth y dynion dros 50 – Glyn Price (2:7:48) a Meic Davies (2:18:26) yn ail a thrydydd. Nid oedd unrhyw un o’r rhedwyr wedi rhedeg y ras hon agos mor aml â Tony Hall (2:36;50) o glwb Sarn Helen ac iddo ef aeth gwobr dosbarth y dynion dros 60.
I’r rhedwyr nad oeddent yn teimlo fel rhedeg y brif ras eleni yr oedd ras 9 milltir yn rhan o’r ŵyl a Dylan Davies (1:05:58) a Lou Summers (1:17:53) o glwb Sarn Helen oedd y buddugwyr.
Yn y ras filltir a hanner i’r ieuenctid yr oedd Harri Rivers (11:48) o glwb Sarn Helen yn enillydd clir gyda Sioned Ruth Kersey (13:26) yn ennill ras y merched.
(Lluniau gan Dylan Wyn Davies)