Dai Davies dw i. Dw i’n byw yn Llanybydder a dw i’n dysgu Cymraeg yng Nghanolfan Creuddyn, Llambed. Gwyneth Davies yw fy nhiwtor i. Ro’n i’n athro Addysg Gorfforol yn Ysgol John Beddoes yn Llanandras, Sir Maesyfed. Dw i’n hoffi chwaraeon a hanes chwaraeon hefyd.
Mae pafiliwn chwaraeon Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi’i leoli ar heol Pontfaen gyferbyn â Chanolfan Creuddyn. Roedd y pafiliwn yn adeilad hardd iawn ar un adeg. Adeilad rhestredig Gradd 2 yw e. Roedd myfyrwyr yn mwynhau ei ddefnyddio wrth chwarae rygbi, hoci, pêl-droed a chriced. Dros y blynyddoedd diwetha, mae’r pafiliwn wedi dirywio.
Yn ddiweddar, roedd myfyrwyr yn mofyn chwarae rygbi ar y cae chwarae a newid yn y pafiliwn. Fe welon nhw fod y pafiliwn ar gau a phroblemau ar y cae. Ro’n nhw’n siomedig iawn.
Dw i’n gobeithio’n fawr y bydd y Brifysgol yn trwsio’r Pafiliwn yn fuan. Mae’n sefyllfa drist iawn achos mae’r adeilad yma’n bwysig iawn i’r Brifysgol ac i’r ardal leol. Gwerthfawrogwch e!