Parcio am ddim am dri dydd Sadwrn cyn y Nadolig yng nghanol Llanbed

Y Cwmins, Rookery a Stryd y Farchnad yw’r llefydd i barcio er mwyn gwneud eich siopa Nadolig eleni

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Bydd siopa Nadolig yng Ngheredigion yn cael hwb eto eleni gyda pharcio am ddim drwy’r dydd ar dri dydd Sadwrn yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig.

Y llefydd parcio am ddim yng nghanol tref Llanbed fydd Y Cwmins, Y Rookery a Stryd y Farchnad ger Sainsbury’s, Llaeth Gwarffynnon a Llyfrgell y Dref.  Bydd yr un peth yn digwydd ym meysydd parcio’r cyngor yn Aeraeron, Aberteifi, Aberystwyth, Cei Newydd, Llandysul a Thregaron.

Ni fydd yna gostau parcio yn y meysydd parcio Talu ac Arddangos hyn a weithredir gan y Cyngor ar y 09, 16, 23 Rhagfyr eleni er mwyn galluogi siopwyr ac ymwelwyr dros gyfnod y Nadolig i gefnogi busnesau lleol y sir ar adeg hanfodol i fusnesau.

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet ar faterion Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol:

“Rydym yn falch iawn ein bod yn gallu agor ein meysydd parcio am ddim i helpu i gefnogi busnesau lleol, boed hynny’n siopau, caffis, tafarndai a bwytai yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig. Mae ein busnesau lleol yn creu profiad siopa Nadoligaidd gwych yn ein trefi ac felly byddem yn annog pawb i wneud y gorau o’r parcio am ddim a siopa’n lleol dros gyfnod yr ŵyl.”