Pencampwriaeth Coetio Prydeinig 2023 i’w chynnal yn Llanybydder

Cefnogwch glwb coets Llanybydder

gan Gwyneth Davies

Ar Ddydd Sadwrn, Awst 26ain cynhelir Pencampwriaeth Coetio Prydeinig 2023 ar safle’r Maes Carafanau ger hen dafarn yr Highmead.

Dyma gyfle i weld goreuon Prydain yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.

Bydd y cyfan yn dechrau am 10yb a cheir barbaciw a lluniaeth ysgafn hefyd yn ystod y dydd.

Dyma’r tro cyntaf i gystadleuaeth o’i bath gael ei chynnal yn Llanybydder. Felly, plîs dewch i gefnogi. Bydd yn ddiwrnod i’w gofio!