Cyflwynir y teitl ‘Athro Ymarfer’ i unigolyn i anrhydeddu a chydnabod y person hwnnw am ennill bri academaidd a/neu broffesiynol yn y disgyblaethau hynny sy’n cyd-fynd â bwriadau strategol y Brifysgol.
Bydd arbenigedd Wynfford yn cynorthwyo’r Brifysgol wrth ddatblygu’r weledigaeth Tir Glas yn Llambed, gweledigaeth wedi’i seilio ar gymuned o feddwl a dysgu trwy brofiad sy’n ymroi i astudio a datblygu bywyd gwledig cynaliadwy.
Mae Wynfford yn gyn Uwch Was Sifil yn Adran Materion Gwledig Llywodraeth Cymru a buodd yn Rheolwr Gyfarwyddwr ar Antur Teifi, un o gwmnïau Menter mwyaf llwyddiannus Cymru nes iddo ymuno ag Is-adran Cymorth Busnes Awdurdod Datblygu Cymru yn bennaeth ar y Gyfarwyddiaeth Bwyd-amaeth. Arweiniodd yr Asiantaeth Menter y maes wrth ddatblygu rhwydwaith o ganolfannau cymorth busnes ar draws y rhanbarth gan ddatblygu’r Parc Arloesi a Chanolfan Fwyd cyntaf yng Ngorllewin Cymru.
Yn Awdurdod Datblygu Cymru, arweiniodd ddatblygiad cymorth ac ymgysylltu gyda’r diwydiant amaeth a bwyd. O dan ei arweinyddiaeth, cydnabyddir bod y sector wedi ennill cydnabyddiaeth newydd yma, ac yn rhyngwladol. Yn 2005, pan oedd yn gweithio yn swyddfa Amsterdam Is-adran Ryngwladol ADC, lluniodd gynlluniau i fanteisio i’r eithaf ar fewnfuddsoddiad o fewn y sector bwyd a diod.
Yn dilyn sefydlu Swyddfa Aberystwyth Llywodraeth Genedlaethol Cymru, ymunodd â’r Uwch Wasanaeth Sifil yn yr Is-adran Wledig lle arweiniodd Fwyd i Gymru, Bwyd o Gymru 2010/2020: Strategaeth Fwyd.
Yn 2016, wedi gadael y Gwasanaeth Sifil, sefydlodd gwmni i ffocysu ar waith yn ymwneud â materion datblygu gwledig. Un o’r prif brosiectau oedd Arsyllfa sydd wedi creu platfform i hysbysu a thrafod materion ar bolisi a gweithredu datblygu gwledig.
Meddai Wynfford: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi fy mhenodi’n Athro Ymarfer ac rwy’n gobeithio y gall fy ngwaith ym maes datblygu gwledig ddod â gwerth ychwanegol a chyfleoedd chyfoethogi offerynnol i ddatblygiad Tir Glas fel bod gwaith yr Arsyllfa yn gweithio fel platfform i rannu ei harbenigedd.”
Meddai’r Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor: “Mae’n bleser gennyf groesawu Wynfford James i’r Brifysgol ac edrychaf ymlaen at ei gyfraniad i ddatblygiad menter Tir Glas yn y dyfodol. Mae Wynfford yn adnabyddus ac yn uchel iawn ei barch yng Nghymru sydd wedi gwneud cymaint o waith i hyrwyddo Cymru a gwerthoedd Cymreig. Bydd ei arbenigedd a’i brofiad o’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu cymunedau gwledig yn gaffaeliad mawr i’r Brifysgol a’n partneriaid.”
Ychwanega Gwilym Dyfri Jones, Profost campysau Llambed a Chaerfyrddin yn y Drindod Dewi Sant: “Bydd y fenter Tir Glas yn elwa’n fawr o wybodaeth a phrofiad helaeth Wynfford ym maes adfywio gwledig wrth iddi anelu at sefydlu campws bywiog, sector deuol, dysgu gydol oes yn Llambed a fydd yn cefnogi anghenion yr economi rhanbarthol ar y naill law a chyfoethogi llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol y dref ar y llall.”